Llywodraeth Cymru'n achub Tafwyl

Castell Caerdydd Image copyright Menter Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhoi grant o £20,000 i Tafwyl.

Roedd yr ŵyl flynyddol o dan fygythiad wedi i Gyngor Caerdydd gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf eu bod yn ystyried torri'r cymhorthdal er mwyn gwneud arbedion.

Wrth ymateb i'r awgrym y gallai grant Tafwyl gael ei dorri, dywedodd John Albert Evans, sy'n dysgu Cymraeg i oedolion yn y brifddinas: "Beth ydy £20,000 i Gyngor Caerdydd pan y'ch chi'n ystyried y diddordeb sydd yn y Gymraeg?

"Mae ffigurau'r cyfrifiad yn dangos twf yn y Gymraeg yn y rhan yma o'r byd ac roedd yr ŵyl y llynedd yn anhygoel."

Roedd y cyngor wedi dweud bod rhaid ystyried toriadau o'r fath gan fod rhaid gwneud arbedion o £22 miliwn.

Ddydd Mercher, cyhoeddodd Leighton Andrews AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, ei fod am gamu i'r adwy.

'Achos unigryw'

"Yn dilyn y pryderon bod cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd yn cynnwys cynlluniau i dorri cyllid Tafwyl, dwi wedi neilltuo £20,000 o gyllid grant ar gyfer yr ŵyl.

"Mae hwn yn achos unigryw. Mae'r ŵyl ddiwylliannol bwysig hon wedi ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers ei lansio yn 2006, ac mae'n hynod werthfawr i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae posibilrwydd y bydd yn ddigwyddiad cenedlaethol yn ein prifddinas.

"Dwi'n sylweddoli bod trafodaethau Caerdydd ynghylch y gyllideb yn parhau.

"Ond dwi wedi ymateb nawr i wneud yn siŵr nad oes cyfnod hir o ansicrwydd i drefnwyr yr Ŵyl, neu i'r rhai hynny y tu allan i'r brifddinas a oedd yn bwriadu teithio i'r Tafwyl.

"Roedd 10% o'r rhai a oedd yn bresennol y llynedd o'r tu allan i Gaerdydd.

"Dwi wedi dod i'r penderfyniad hwn yn dilyn trafodaethau gydag Aelod Cabinet Caerdydd dros Ddiwylliant, y Cynghorydd Huw Thomas, oedd dwi'n gwybod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i ddathliad Tafwyl.

"Mae'r Cynghorydd Thomas wedi dod i'r adwy unwaith eto dros Gaerdydd, gan roi cymorth fel gwneud yn siŵr bod tir Castell Caerdydd ar gael a rhoi cryn dipyn o amser y staff a chymorth gan swyddogion.

"Gan fod yr ansicrwydd ynghylch 2013 wedi dod i ben bellach, gall y trafodaethau ganolbwyntio ar sut y bydd y digwyddiad yn datblygu yn y dyfodol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg a gwneud yn siŵr ei bod yn ffynnu o fewn ein cymunedau. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau dyfodol y Gymraeg a hoffwn atgoffa awdurdodau lleol o'u dyletswydd i wneud hynny o fewn eu cymunedau."

'Parhad yr iaith'

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Mae Tafwyl wedi bod yn enghraifft o brosiect llwyddiannus sydd wedi tyfu drwy ewyllys pobl Caerdydd a 56 o sefydliadau a mudiadau sydd wedi ei chefnogi.

"Fel unrhyw ŵyl ddiwylliannol a chelfyddydol arall, mae parhad Tafwyl yn ddibynnol ar ddenu cymhorthdal o amryw o ffynonellau.

"Yn dilyn y newyddion am doriadau 100% gan Gyngor Caerdydd tuag at Tafwyl yr wythnos diwethaf rydym yn ddiolchgar erbyn heddiw fod Y Gweinidog Leighton Andrews wedi camu i mewn a chynnig yr £20,000 fydd yn sicrhau dyfodol yr ŵyl ar ei ffurf bresennol.

"Mae sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol a gwaith yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.