Llofruddiaeth Caergrawnt: Cyhuddo dau

Llywelyn Thomas Image copyright Other
Image caption Roedd Llywelyn Thomas yn ffermio yng Nghymru cyn symud i Loegr 13 blynedd yn ôl

Mae dau wedi eu cyhuddo o lofruddio ffermwr 76 oed o Gymru yn Sir Gaergrawnt.

Cafwyd hyd i Llywelyn Thomas, 76 oed, yn farw yn ei gartref yn Chittering ar Ragfyr 18, 2011.

Mae'r heddlu'n credu i ladron dargedu ei gartref rhwng Rhagfyr 17 ac 18.

Bydd Frankie Parker, 25 oed, Ely, gerbron Ynadon Caergrawnt ddydd Mercher a Gary Smith, 20 oed, heb gyfeiriad sefydlog, gerbron yr un ynadon ar Chwefror 14.

Roedd y ffermwr, oedd wedi ymddeol, wedi symud o ardal Sain Ffagan i Loegr 13 blynedd yn ôl er mwyn bod yn nes at ei deulu.

Dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.

Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab a chafodd gwobr o £50,000 ei chynnig am wybodaeth fyddai'n arwain at erlyn troseddwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.