Rhybudd am gynllunio ffermydd gwynt yng Nghymru

Tyrbinau gwynt Image copyright Getty Images
Image caption Mae ymchwil wedi awgrymu y gallai ffermydd gwynt fod yn werth £2.3bn i economi Cymru

Mae pennaeth cwmni ynni adnewyddol mwyaf y DU wedi rhybuddio y gallai Cymru golli buddsoddiad mewn ffermydd gwynt oni bai bod y broses gynllunio'n cael ei chyflymu.

Dywedodd Ian Marchant, prif weithredwr SSE, bod cynlluniau arfaethedig yng Nghymru yn cymryd mwy o amser a chost nag mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae gan SSE, sydd hefyd yn berchen ar gwmni trydan Swalec, 36 o ffermydd gwynt ar draws Prydain, ac yn cynllunio 35 arall.

'Her'

Wrth siarad yn agoriad canolfan hyfforddi Swalec yn Nhrefforest ger Pontypridd, datgelodd Mr Marchant fod ei gwmni yn ystyried cynllun am fferm wynt 62 o dyrbinau yn Nant y Moch ger Aberystwyth.

Does dim cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, ond dywedodd Mr Marchant y bydd SSE yn penderfynu yn fuan a fydd SSE yn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun neu beidio.

"Y broblem yw bod y cynllun yn cymryd mwy o amser ac yn costio mwy i'w ddatblygu na chynlluniau tebyg yn yr Alban," meddai.

"Yr her sy'n ein hwynebu fel datblygwyr yw a ydyn ni'n parhau i wario arian ar y cynllun yma?"

'Rhethreg'

Yn ôl ymchwil gan gwmni Regeneris Consulting ac Ysgol Fusnes Caerdydd, gallai ffermydd gwynt ar y tir roi hwb o £2.3 biliwn i economi Cymru erbyn 2050, gan greu cyfartaledd o 2,000 o swyddi bob blwyddyn.

Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gynhyrchu 2,000 MegaWatt (MW) o drydan o dyrbinau gwynt erbyn 2025.

Ond dywedodd Mr Marchant: "Rwy'n clywed llawer o rethreg dda, ond y realiti yw bod datblygu ar lawr gwlad ddim cystal â'r rhethreg.

"Yn yr Alban chwech neu saith mlynedd yn ôl, roedd y sefyllfa'n ddigon tebyg i'r hyn ydoedd yng Nghymru. Roedd bwlch rhwng rhethreg a realiti.

"Ond mae llywodraeth wleidyddol a gweinyddol yn yr Alban wedi ceisio cau'r bwlch.

"Bellach fe allwch chi gael penderfyniadau cadarn mewn hanner yr amser - rhyw ddwy neu dair blynedd o ddweud bod y lle a'r lle yn safle da i gael penderfyniad cynllunio terfynol.

"Y broblem i Gymru yw bod buddsoddi cyfalaf yn union fel dŵr - mae'n dod o hyd i'r llwybr hawsaf, ac mae'n haws, yn rhatach ac yn gyflymach i ddatblygu fferm wynt yn yr Alban nag yng Nghymru.

"Fe fydd yr arian yn dal i lifo i'r cyfeiriad yna os na fydd Cymru'n tynnu'i bys mas yn reit sydyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.