Uwchgynghrair Cymru

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Bangor 3-3 Prestatyn

Llanelli 0-2 Lido Afan

Seintiau Newydd 5-0 Port Talbot

Fe wnaeth gol Michael Parker ar ôl tri munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm sicrhau pwynt i Brestatyn oddi cartref ym Mangor.

Andy Parkinson roddodd yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 13 munud. Tarodd Bangor yn ôl drwy Levi Mackin ar ôl yr egwyl.

Aeth Prestatyn yn ôl ar y blaen saith munud yn ddiweddarach, Parkinson yn rhwydo ei ail.

Aeth Bangor ar y blaen diolch i goliau gan Chris Simm (75' munud) a Les Davies (76')

Roedd yna fuddugoliaeth i Lido Afan, y tîm ar waelod yr uwchgynghariar, diolch i goliau hwyr Luke Borrelli 84' a Chris Hartland 90'.

Mae'r Seintiau 10 ar y blaen i Airbus ar ôl iddyn nhw roi cweir i Port Talbot. Dwy gol i Alex Darlington, gyda Mike Wilde, Greg Draper a Ryan Fraughan hefyd yn canfod cefn y rhwyd.

Tabl Uwch Gynghrair Cymru
Gemau Pwyntiau
Y Seintiau Newydd 23 49
Airbus 22 39
Bangor 23 37
Prestatyn 23 37
Port Talbot 23 32
Cei Connah 22 30
Caerfyrddin 22 30
Bala 23 29
Llanelli 23 27
Y Drenewydd 23 26
Aberystwyth 22 26
Lido Afan 23 17

Canlyniadau hanner cynta'r tymor yn llawn