Rhybudd o eira

  • 9 Chwefror 2013
Eira
Mae disgwyl eira ar dir uchel yn y dwyrain

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gall eira achosi problemau mewn rhannau o Gymru ddydd Sul.

Mae rhybudd melyn "byddwch yn barod" wedi ei osod ar gyfer rhannau o ddwyrain Cymru o 6am.

Disgwylir i'r eira fod yn fwy trwm ar y tir uchel, gyda glaw cyson yn yr iseldir.

Mae rhybudd o rew ar gyfer bore Llun ac yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai hyn achosi problemau wrth i bobl fynd i'w gwaith.