Flores ddim ar gael ar gyfer Wembley

Chico Flores Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe gafodd Flores ei anafu ddydd Sadwrn

Mae'n debyg na fydd yr amddiffynnwr Chico Flores ar gael i wynebu Bradford yn ffeinal Cwpan Capital One yn Wembley.

Fe wnaeth Flores anafu ei bigwrn yn y fuddugoliaeth yn erbyn QPR ddydd Sadwrn.

Credir y bydd Flores yn colli'r gêm yn erbyn Lerpwl ar Chwefror 17 ac yna'r gêm yn erbyn Bradford y dydd Sul canlynol.

"Mae'n annhebygol o chwarae yn y ffeinal," meddai Kate Rees, ffisiotherapydd y Gweilch.

"Mae'n anodd dweud yn union am faint fydd e'n absennol, mae'n rhaid i ni aros i'r chwydd fynd lawr cyn i ni allu ei asesu'n iawn. "

Teithiodd Flores i Dubai gyda gweddill y garfan ddydd Sul ar gyfer sesiwn hyfforddi.