90 mlynedd ers clywed y Gymraeg ar y radio am y tro cyntaf

  • 13 Chwefror 2013
Mostyn Thomas yn canu yn stowdio 5WA Caerdydd yn 1923
Mostyn Thomas yn perfformio yng ngorsaf 5WA Caerdydd yn 1923

Ar Chwefror 13 1923 y darlledwyd y geiriau Cymraeg cyntaf ar donfeddi'r radio.

Cychwynnodd darlledu drwy gyfrwng yr iaith gyda chân werin Gymraeg.

Flwyddyn yn gynharach roedd y Postfeistr wedi cyhoeddi fod trwyddedau ar gael i sefydlu gorsafoedd radio.

Yn eu plith yr oedd Caerdydd, y gyntaf yng Nghymru.

5WA oedd yr arwyddair a lleolwyd y stiwdio fach uwchben siop gerddoriaeth yn 19 Stryd y Castell, Caerdydd.

Rhaglen i blant yn Saesneg oedd y darllediad cyntaf.

Baritôn

Roedd un awr ar hugain o ddarlledu yn ystod yr wythnos, y rhan fwyaf yn rhaglenni cerddorol.

Y geiriau Cymraeg cyntaf ar yr orsaf oedd y baritôn Mostyn Thomas yn canu 'Dafydd y Garreg Wen'.

Dydi'r fersiwn wreiddiol ddim wedi goroesi ond mae 'na fersiwn o Thomas yn canu'r gân tua 1948.

Dywedodd yr arbenigwr ar ganeuon gwerin, Roy Saer, fod y dôn wedi ei chyhoeddi fel cainc delyn yn 1784 gan Edward Jones, Bardd y Brenin.

"Fe hefyd oedd y cyntaf i gofnodi bod y Dafydd hwn yn trigo ar fferm Garreg Wen ger Porthmadog, iddo ganu'r delyn tra ar ei wely angau, ac iddo hefyd ddeisyf iddi gael ei chlywed yn ei angladd.

"Hawliwyd y dôn fel un Albanaidd, a hyd yn oed Rwsiaidd.

"Ychwanegwyd y geiriau, sy'n cyfleu'r diweddglo uchod ar fywyd Dafydd, bron canrif yn ddiweddarach gan Ceiriog ar gyfer cyfrol The Songs of Wales (gol. Brinley Richards, 1873), ac yn sgîl hynny daeth y gân yn ffefryn arbennig am lawer cenhedlaeth."