Rob Howley i aros gyda'r un pymtheg i wynebu'r Eidal

Sam Warburton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dim lle i Sam Warburton wrth i Rob Howley gadw at y 15 gychwynodd y gêm yn erbyn Ffrainc ar gyfer Yr Eidal

Cyhoeddodd Rob Howley y bydd yn dewis yr un tîm i wynebu'r Eidal wythnos i ddydd Sadwrn ag y curodd Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros y penwythnos.

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd y capten Sam Warburton yn dychwelyd i'r tîm.

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd yr hyfforddwr dros dro y bydd yn cychwyn gyda'r un 15 gan obeithio na fydd 'na unrhyw anafiadau.

"Dwi wedi dweud wrth y chwaraewyr y byddaf yn cychwyn gyda'r un 15 i wynebu'r Eidal," meddai.

"Dwi'n credu bod hi'n bwysig o safbwynt yr hyfforddwr ein bod yn gwobrwyo'r chwaraewyr sydd wedi mynd allan.

"Roeddwn yn credu bod Ryan Jones yn sefyll allan o ran arweiniad ac mae'n wobr iddo ei fod yn gapten yn erbyn Yr Eidal."

Enillodd Gymru o 16-6 yn erbyn Ffrainc ym Mharis ddydd Sadwrn, ar ôl colli'r gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon o 22-30 wythnos yn gynharach yng Nghaerdydd.

Oherwydd anaf i Warburton, cafodd Justin Tipuric gyfle i fod yn y tîm.

Bydd Cymru'n wynebu'r Eidal yn Stadiwm Olimpico Rhufain ar Chwefror 23.

Mae'r clo Alun Wyn Jones yn dychwelyd i'r garfan ar ôl chwarae i'r Gweilch nos Wener.

Cymru: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert; Jonathan Davies; Jamie Roberts; George North; Dan Biggar; Mike Phillips; Gethin Jenkins; Richard Hibbard; Adam Jones; Andrew Coombs; Ian Evans, Ryan Jones (capten); Justin Tipuric; Toby Faletau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.