Matthew Stevens yn curo Liang Wenbo i gyrraedd yr ail rownd

Matthew Stevens Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe fydd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yn y rownd nesaf

Matthew Stevens yw'r Cymro cyntaf i gyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.

Dydd Mawrth fe gurodd y gŵr o Gaerfyrddin Liang Wenbo o China o 4 ffrâm i 2.

Fe fydd yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yr ail rownd.

Dydd Mercher fe fydd Dominic Dale yn herio Judd Trump o Loegr ac fe fydd y cyn-bencampwr byd, Mark Williams, yn chwarae yn erbyn Robert Milkins o Loegr.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 1 (Dydd Mawrth)

Matthew Stevens 4-2 Liang Wenbo (China)

Rownd Rhagbrofol (Dydd Llun)

Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)

Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)

Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)

Matthew Stevens 4-2 Alfie Burden (Lloegr)

Dominic Dale 4-1 Daniel Wells

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.