Lle anrhydeddus i actor

Richard Burton
Image caption Richard Burton: Cydnabyddiaeth yn Hollywood

Bydd seren yr actor Richard Burton yn cael ei dadorchuddio ar Lwybr yr Enwogion yn Hollywood ar Fawrth 1.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd seremoni anrhydeddu wrth ddathlu 50 mlynedd ers ffilm Cleopatra a'i dwy seren, yr actor o Gymro a'r fenyw briododd ddwywaith, Elizabeth Taylor.

Bydd seren Burton yn ymddangos drws nesa' i un Ms Taylor.

Dechreuodd y berthynas pan oedd y ddau'n actio yn y ffilm cyn iddyn nhw actio mewn naw ffilm arall, gan gynnwys The Taming Of The Shrew a Who's Afraid Of Virginia Woolf?

Bu farw'r actor o Bontrhydyfen bron i 30 mlynedd yn ôl.

Siambr Fasnach Hollywood sy' wedi cadarnhau'r anrhydedd y mae'r Athro Dylan Jones-Evans a'r Western Mail wedi ymgyrchu amdani.

'Ar ben eu digon'

Cyhoeddwyd yn gynharach y byddai ffilm yn cael ei dangos ar y BBC am y berthynas rhwng yr actor o Gymro a'r Americanes.

Dominic West fydd yn actio Burton a Helena Bonham-Carter fydd yn actio Taylor, fu farw yn 2011.

Dywedodd yr Athro Jones-Evans: "Dwi'n siwr y bydd pobl Cymru ar ben eu digon am fod yr actor yn cael ei anrhydeddu ar Fawrth 1.

"Bydd y gydnabyddiaeth gyhoeddus nid yn unig yn rhoi mwy o sylw i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol ond hefyd yn codi arian ar gyfer ysgoloriaeth yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru."

Dywedodd pennaeth y coleg Hilary Boulding: "Fe yw un o feibion enwoca' Cymru.

"Rydyn ni'n falch fod Theatr Richard Burton yn ein coleg ni a bod hon yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o actorion."