Damwain: Ffordd ynghau

Roedd yr A40 ynghau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd gwrthdrawiad rhwng car a beic modur nos Iau.

Dywedodd yr heddlu fod "damwain ddifrifol" a bod y ffordd ynghau rhwng Cylchfan Llwynhelyg ac Abergwaun.

Ychwanegodd yr heddlu y dylai gyrwyr deithio ar yr A487 drwy Dyddewi nos Iau.