Snwcer: Matthew Stevens yn colli i Stephen Maguire

Matthew Stevens Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire ddydd Iau

Does dim un o'r chwe Chymro ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf.

Y Cymro olaf i adael y gystadleuaeth oedd Matthew Stevens brynhawn ddydd Iau.

Collodd y gŵr 35 oed o Gaerfyrddin 4-2 i Stephen Maguire o'r Alban.

Stevens oedd yr unig Gymri i gyrraedd ail rownd y bencampwriaeth.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 2 (ddydd Iau)

Matthew Stevens 2-4 Stephen Maguire

Rownd 1 (ddydd Mercher)

Mark Williams 1-4 Robert Milikin (Lloegr)

Dominic Dale 3-4 Judd Trump (Lloegr)

Rownd 1 (ddydd Mawrth)

Matthew Stevens 4-2 Liang Wenbo (China)

Rownd Ragbrofol (ddydd Llun)

Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)

Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)

Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)

Matthew Stevens 4-2 Alfie Burden (Lloegr)

Dominic Dale 4-1 Daniel Wells

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.