Cwymp eira: Enwi dyn fu farw

Rimon Than
Cafodd ei ddisgrifio fel dringwr profiadol.

Mae'r heddlu wedi enwi un o'r tri fu farw yn dilyn cwymp eira yn Ucheldiroedd yr Alban.

Roedd Arweinydd Sgwadron Rimon Than, 33 oed, oedd yn gweithio yn Llu Awyr Y Fali yn un o ddau aelod o'r Llu Awyr gafodd eu lladd yn ystod y cwymp eira brynhawn dydd Iau.

Bu farw dau ddyn a menyw yn ardal Bwlch Chalamain ym mynyddoedd y Cairngorms.

Ni chafodd naw aelod arall o'r grŵp eu hanafu.

Roedd Arweinydd Sgwadron Than yn aelod o Gymdeithas Ddringo'r Fyddin ac roedd yn feddyg cymwysedig.

Cafodd ei ddisgrifio fel dringwr profiadol.

Dywed yr heddlu fod teulu'r ddau arall fu farw wedi gofyn am fwy o amser i hysbysu ffrindiau ac aelodau eraill o'r teuluoedd cyn iddynt gael eu henwi.

Cafodd y tri eu cludo gan hofrennydd i ysbyty yn Aberdeen toc wedi 12.30pm ddydd Iau.