Milwr o Gymru ar goll yn Ffrainc

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod milwr o Gymru wedi mynd ar goll tra ar wyliau yn yr Alpau yn Ffrainc.

Roedd Simon Daw, aelod o Fataliwn Cynta'r Cymry Brenhinol, yn aros ym mhentre' sgïo Les Deux Alpes gyda ffrindiau.

Mae'n debyg nad oes neb wedi gweld y milwr o Bontprennau ger Caerdydd ers dydd Mercher.

"Rydym yn ymwybodol o adroddiadau fod Prydeiniwr ar goll yn Ffrainc," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

"Mae staff consylaidd mewn cysylltiad gyda'r heddlu yn Ffrainc sy'n chwilio am yr unigolyn. Rydym yn barod i roi unrhyw gymorth."

Roedd milwyr o Fataliwn Cynta' Catrawd y Cymry Brenhinol wedi dychwelyd adre' fis Hydref ar ôl treulio chwe mis yn Afghanistan.

Cafodd dau aelod o'r bataliwn eu lladd yn Afghanistan, y Capten Stephen Healey, 29 oed, a'r Corporal Michael Thacker, 27 oed.

Straeon perthnasol