Scarlets yn cael buddugoliaeth yn erbyn Munster

Owen Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Owen Williams oedd chwaraewr y gêm wedi ei gicio cywrain

Scarlets 18-10 Munster

Fe wnaeth Owen Williams serennu i'r Scarlets wrth iddyn nhw guro Munster ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y tîm o Gymru wedi codi i'r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12.

Cafodd Williams, 20 oed, holl bwyntiau'r Scarlets, pum cic gosb a chic adlam.

Dyma'r ail waith yn unig iddo gychwyn gêm yn y gynghrair y tymor yma.

I'r gwrthwyneb methodd y profiadol Ronan O'Gara dair o'i bum ymgais at y pyst ar ran yr ymwelwyr.

Doedd Munster ddim i'w weld yn gyfforddus chwaith gyda'r bêl.

Ond nhw gafodd unig gais y gêm, Denis Hurley yn croesi'n hwyr yn y gêm cyn i O'Gara ei throsi.

I'r Gwyddel enillodd ei 127ain cap dros ei wlad yr wythnos diwethaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, doedd o ddim y paratoad gorau cyn wynebu'r Alban ym Murrayfield yr wythnos nesaf.

Ond fe fydd Williams yn sicr o fod wedi cael hyder gan ei berfformiad a buddugoliaeth ei dîm.

Gorffennodd y gêm ar nodyn sur i Williams wedi iddo weld cerdyn melyn gan y dyfarnwr.

Fe wnaeth yr ymwelwyr fanteisio ar y dyn ychwanegol a arweiniodd at gais Hurley.

Dyma'r tro cyntaf i'r Scarlets ennill y ddwy gêm gynghrair yn erbyn Munster ers tymor 2004.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 17-21 16-17 23 - 13 16-31 18-23 28-29 22-27 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 23 - 24 30-11 3/4/5 Mai 9-13 22-10 34-6 12-16 11-24 18 - 3 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 32-12 14 - 3 3-60 5-16 3-14 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 23-14 19-46 37-6
Glasgow 23 - 14 27-17 37 - 6 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 0 - 6 29/30/31 Maw. 13-18 41-7 22/23/24 Chwe. 22-19
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 12-10 3-18 29/30/31 Maw. 11-26 18 - 24 19/20/21 Ebr. 34-18 19-48 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26-9 22/23/24 Maw. 10-28 33 - 12 19 - 10 30-15 32-3 12/13/14 Ebr. 13-16 16-15
Leinster 22-16 17-10 45-25 22/23/24 Maw. 59 - 22 3/4/5 Mai 30-21 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 37 - 7
Munster 30-3 22/23/24 Maw. 33-13 31 - 3 6-17 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 6 - 13 19-6 24-10 29-3
SCARLETS 1/2/3 Maw. 25-15 24-13 12/13/14 Ebr. 6 - 9 16-23 45-20 18-10 3/4/5 Mai 12 - 19 22 - 13
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 32 - 13 13-24 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 22-20 15 - 16 26-18
Ulster 45 - 20 25-0 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 12-16 27 - 19 20-19 47-15 1/2/3 Maw. 26-3
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 20-36 7 - 14 16-34 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 3-10 25 - 27

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.