Cynllun Genesis wedi creu llai na 800 o swyddi

  • 17 Chwefror 2013
Cafodd rhaglen Genesis ei lansio yn 2008
Cafodd rhaglen Genesis ei lansio yn 2008

Llai na 800 o bobl wnaeth ganfod gwaith drwy gynllun nôl i'r gwaith sy'n wynebu dod i ben flwyddyn yn gynt na'r disgwyl, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio y byddai Genesis Cymru Wales 2 yn helpu 20,000 o bobl i gael gwaith neu i ennill cymwysterau.

Ond dim ond tua hanner hynny wnaeth gymryd rhan a 7% yn unig wnaeth ganfod gwaith.

Mae aelodau'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad yn dweud bod angen dysgu gwersi o'r cynllun a dderbyniodd £36 miliwn o arian cyhoeddus.

Fe ddaeth hi i'r amlwg ym mis Ionawr bod gweinidogion yn ystyried dod a'r cynllun i ben flwyddyn yn gynnar a hynny ym mis Mehefin eleni yn hytrach nag yn 2014.

Ar y pryd roedden nhw'n dweud bod adolygiad mewnol wedi dod i'r casgliad nad oedd y cynllun yn ddigon effeithiol o ran rhai targedau.

Mae dogfennau sydd wedi dod i law rhaglen Sunday Politics BBC Cymru yn nodi bod 10,500 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Derbyniodd 2,186 gymwysterau ond erbyn mis Mehefin 2012 dim ond 789 oedd yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos o ganlyniad i fod wedi cymryd rhan.

Cymorth ymarferol

Mae'n costio ar gyfartaledd £44,735 yr un i gael swyddi i'r bobl yma gyda'r targed pan gychwynnodd y rhaglen yn £13,000 ar gyfer pob swydd.

Cynghorau lleol sy'n cynnal y rhaglen gyda chymorth ariannol o Ewrop er mwyn gwella economi Cymru.

Mae Genesis yn helpu pobl sy'n cael anhawster canfod gwaith, yn enwedig rhieni sengl.

Mae'r cynllun yn cynnig mentora, cymorth gyda gofal plant a chymorth i bobl fynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfweliadau.

Roedd tua 15,000 o'r rhai oedd yn cael eu targedu yn dod o ardaloedd difreintiedig gorllewin Cymru a'r cymoedd.

Ar y cychwyn fe gafodd £67 miliwn ei glustnodi i gynnal y rhaglen, swm a gafodd ei ostwng i £56 miliwn.

Ond erbyn mis Mehefin 2012 dim ond £36 miliwn oedd wedi cael ei wario.

Er hynny, mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, a'i ddirprwy Jeff Cuthbert, wedi penderfynu diddymu £23 miliwn ar gyfer y rhaglen o Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru.

Tangyflawni

Mae'r gwrthbleidiau yn dweud bod hyn yn codi cwestiynau am y modd y mae Cymru wedi gwario cymorth ariannol o Frwsel.

"Dwi'n meddwl bod 'na wersi mawr i'w dysgu," meddai Nick Ramsey, llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi.

"Rydym yn gwybod bod lot o arian wedi ei wario o gyllid Ewrop dros y 10 mlynedd diwethaf ac nad ydi o wedi cyflawni'r canlyniadau y byddem wedi ei ddisgwyl.

"Dwi'n meddwl rŵan a'i ydi hyn oherwydd nad ydi Llywodraeth Cymru yn gallu gwario'r arian yn gywir."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae swyddogion ar hyn o bryd yn ymchwilio i resymau pam bod y cynllun wedi tangyflawni ac yn ystyried opsiynau eraill i gynnig cefnogaeth debyg i'r hyn sydd ar gael drwy'r rhaglen.

"Does 'na ddim penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â pharhau gyda'r argymhelliad i ddirwyn y rhaglen i ben yn gynnar na be fydd yn cymryd ei le."

Mae Mr Cuthbert yn disgwyl derbyn adroddiad gan swyddogion ym mis Mawrth am ddyfodol y prosiect.

Dywedodd yr AC Llafur Mark Drakeford, sy'n cadeirio pwyllgor monitro Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, bod rhaid dysgu gwersi o'r profiad yma...er mwyn gwneud y mwya' o'r cyllid fydd ar gael i Gymru o Ewrop yn y dyfodol.