Gavin Rees yn cael ei drechu yn y sgwâr gan Adrien Broner

Gavin Rees yn cael ei drechu gan Adrien Broner Image copyright Reuters
Image caption Roedd Gavin Rees wedi dweud cyn yr ornest y byddai'n gallu trechu Adrien Broner

Roedd yr Americanwr Adrien Broner yn llawer rhy gryf i'r Cymro Gavin Rees ym mhencampwriaeth WBC is-drwm y byd.

Cychwynnodd y Cymro dewr yn sionc wrth ennill y rownd gyntaf yn erbyn Broner oedd yn amddiffyn y teitl yn y Boardwalk Hall yn Atlantic City nos Sadwrn.

Ond fe wnaeth yr Americanwr gymryd rheolaeth yn y drydedd rownd gyda chyfres o ergydion cyn y gloch.

Yn y bedwaredd rownd fe loriodd Rees.

Cafodd Rees ei daro i'r llawr yn y bumed.

Bu'n rhaid i hyfforddwr Rees ei dynnu'n ôl a Broner yn ennill yn gyfforddus.

Yn gyn-bencampwr WBA go-drwm y byd, Rees oedd y gwanaf o'r ddau.

"Dwi'n siomedig gyda fy mherfformiad," meddai Rees.

"Fe wnes i lot o gamgymeriadau,

"Roeddwn am ddal i godi. Dal i godi tan i mi gael fy llorio yn llwyr."

Straeon perthnasol