Carcharu cyn filwr am gais ffug

Leon Wells
Clywodd y llys fod Wells wedi gwasanaethu gyda'r fyddin yn Sierra Leone a Macedonia

Cafodd cyn filwr ei garcharu gan farnwr yng Nghaerdydd am wneud cais ffug am iawndal, ac am greu dau dyst ffug i gefnogi'r cais.

Roedd Leon Wells, 30 oed, wedi ceisio mynd â chyngor i gyfraith am £28,000 dair blynedd wedi iddo anafu ei ben-glin wrth ddisgyn i lawr grisiau.

Pan ofynnwyd iddo pam ei bod wedi cymryd cyhyd i ddod â'r achos gerbron, honnodd ei fod yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arbennig yn Afghanistan.

Ond clywodd y llys ei fod mewn gwirionedd yn treulio dedfryd yn y carchar am ddynladdiad.

'Gwadu'

Cafodd ei garcharu am bedair wythnos ychwanegol ddydd Mawrth wedi i ymchwilwyr ganfod bod ei achos yn un ffug ac yn seiliedig ar dystiolaeth ffug yn erbyn Cyngor Caerffili.

Dywedodd yr erlynydd Gareth Compton: "Wrth gyflwyno'i gais am anafiadau personol, fe greodd Wells ddau dyst i'r digwyddiad.

"Ond pan holwyd y tystion, roedd un yn gwadu ei fod yn gwybod am y digwyddiad, ac roedd y llall yn niwlog wrth adrodd yr hanes."

Clywodd y llys fod Wells wedi gwasanaethu gyda'r fyddin yn Sierra Leone a Macedonia, ond ei fod wedi gadael gan ddechrau gweithio fel plymiwr.

Yn 2006 cafodd anaf difrifol i'w ben-glin wrth ddisgyn i lawr grisiau.

Yna yn 2008 fe laddodd Alan Brown wrth ymladd y tu allan i dafarn a chafodd ei ddedfrydu i dair blynedd dan glo am ddynladdiad.

Pan gafodd ei rhyddhau, fe ddaeth ag achos yn erbyn Cyngor Caerffili am yr anaf gan honni bod y cyngor wedi bod yn ddiofal, ond tynnodd ei achos yn ôl ar ddiwrnod cynta'r achos.

Aeth y cyngor wedyn i gyfraith wedi iddyn nhw sylweddoli ei fod wedi ceisio'u twyllo.

Dirmyg

Plediodd Wells yn euog i ddirmyg llys a chafodd ei garcharu am bedair wythnos.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Wyn Williams wrth Wells: "Roedd rhan o'ch cais yn dwyllodrus ac roedd rhan o'ch tystiolaeth yn anonest.

"Fe wnaethoch chi greu dau dyst i gefnogi'ch cais, ac mae'n rhaid delio gyda'r fath anwiredd mewn modd difrifol iawn.

"Does gen i ddim dewis ond cyhoeddi dedfryd o garchar ar unwaith am y dirmyg yma o'r llys."