Dyn yn yr ysbyty wedi damwain beic cwad yn Nhonyrefail

Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddyn oedd yn gyrru beic cwad ddioddef anafiadau difrifol i'w ben wedi iddo daro wal garej yn Rhondda Cynon Taf.

Digwyddodd y ddamwain tua 3.30pm ar Chwefror 19 yn Llys Marshfield, Tonyrefail.

Mae'r dyn 30 oed yn cael ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Bu'r ffordd ynghau am ddwy awr.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.