Dau gyngor: 'Angen gwella addysg'

  • 20 Chwefror 2013
Adroddiad Arwyn Jones

Dylai gwasanaethau addysg dau awdurdod lleol fod mewn mesurau arbennig, yn ôl y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru.

Yn ôl Estyn, mae'r ddarpariaeth yng nghynghorau Sir Fynwy a Merthyr yn annerbyniol ar ôl archwiliadau'r llynedd.

Er bod ysgolion cyngor sir Fynwy yn rhai da - yn well na'r rhan fwyaf - fe ddylai nhw fod yn llawer gwell o ystyried mor gyfoethog ydy'r rhan fwyaf o rieni, meddai Estyn.

Ym Merthyr, mae llawer mwy o dlodi. Ond hyd yn oed o ystyried hynny, mi ddylai'r safonau fod yn uwch, yn ôl yr arolygwyr.

Mae'r ddau gyngor yn derbyn bod digon o le i wella.

'Methu'

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn danbaid, gan fynnu bod gormod o gynghorau llai Cymru yn methu yn eu dyletswyddau i bobl ifanc.

Wrth siarad ar wasanaeth Radio Wales fore Mercher, dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews:

"Mae'r canlyniadau yma'n siomedig iawn. Mae adroddiad Merthyr yn un o'r rhai gwaethaf i mi eu darllen, ac mae elfen o hunanfodlonrwydd yn Sir Fynwy.

"Rydym yn medi'r hyn gafodd ei hau yn y 1990 wrth newid o wyth awdurdod lleol i 22. Arweiniodd hynny at wasgaru adnoddau, diffyg arbenigedd a phenderfyniadau gwael eraill.

"Rwy'n disgwyl am ganlyniad fy arolwg i addysg, ond mae'r model consortia yn un dewis. Fedrwn ni ddim parhau fel hyn.

"Mae safonau yn gwella ar y cyfan.

"Mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau yn yr awdurdodau sy'n methu ar ysgwyddau'r rhai sy'n rheoli yno, ond fe fyddaf yn gweithredu pan mae cynghorau yn methu ac fe fydd gen i fwy i ddweud am Sir Fynwy a Merthyr Tudful dros yr wythnos i ddod."

'Sioc'

Dywedodd Aelod Cynulliad Merthyr, Huw Lewis: "Mae adroddiad Estyn yn tanlinellu sefyllfa bryderus addysg ym Merthyr Tudful dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae addysg yn allweddol i daclo tlodi ac afiechyd ac i wella ansawdd bywyd. Mae'n sioc wirioneddol bod y system addysg wedi methu ein plant yn y fath fodd".

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: "Mae'r adroddiad yn llesol ac yn dangos bod angen i ni wella addysg plant a phobol ifanc y sir.

"Tra bod ein hysgolion yn ymddangos yn gwneud yn dda mewn tablau cenedlaethol, mae'n amlwg y gallem gyflawni mwy, ac fe ddylai safonau fod yn uwch.

"Rydym eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â nifer o'r materion a godwyd yn yr arolygiad".

Bellach mae pump o adrannau addysg cynghorau Cymru wedi eu gosod mewn mesurau arbennig, ar ôl i arolygon ganfod bod safonau yn annerbyniol, sef Blaenau Gwent, Sir Benfro, Ynys Môn, Merthyr a Sir Fynwy.

Ymateb pellach

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC:

"Mae'r adroddiadau hyn yn cadarnhau'r darlun sy'n ymddangos o system addysg anghyfartal nad yw'n gweithio yng Nghymru.

"Hyd yma, does yr un awdurdod addysg lleol wedi'i farnu yn 'rhagorol' ac y mae tri mewn mesurau arbennig eisoes. Nawr mae Sir Fynwy a Merthyr wedi'u pwyso yn y glorian a'u cael yn brin.

"Yn achos Merthyr, bu'r ysgrifen ar y mur ers peth amser, ac y mae'n siomedig nad yw'r awdurdod wedi gwella. Dylai'r Gweinidog ystyried ymyrryd yma.

"Mae'r holl hanes yn tanlinellu'r cyflwr truenus y gadawyd Cymru ynddi gan un gweinidog addysg Llafur ar ôl y llall ers 1997, ac mewn llawer achos, yr un fu methiannau awdurdodau addysg Llafur.

"Pan oedd Plaid Cymru mewn clymblaid gyda Llafur fe gefnogodd ac annog y rhaglen bresennol o welliannau ysgolion, ond mae'r adroddiad yn amlygu'r angen am weithredu mwy pendant fyth.

"Yn amlwg, mae angen adolygu dyfodol awdurdodau addysg lleol, ac mae angen rhyw fath o ailstrwythuro a newid canolbwynt.

"Yng ngoleuni'r cyswllt clir rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol, a'r lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru o gymharu â gweddill y DG, mae peidio ag ymdrin â'r mater hwn yn dal ein heconomi'n ôl ac yn gwneud tro gwael â'n plant."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.