Cwmni dosbarthu bwyd Castell Howell yn galw peth cynnyrch yn ôl

Mae cwmni dosbarthu bwyd Castell Howell yn Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau wrth BBC Cymru nos Fawrth eu bod nhw wedi galw peth cynnyrch yn ôl oherwydd posibilrwydd bod rhywfaint o gig ceffyl ynddo.

Wrth siarad ar raglen y Byd ar Bedwar ar S4C, fe ddywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, Martin Jones, fod profion DNA ar gynnyrch cwmni Oak Farm, o Iwerddon, yn dangos olion posib o gig ceffyl.

Mae Castell Howell wedi cysylltu â'r pum cwsmer sydd wedi prynu'r cynnyrch.