Llys: Heddlu'n chwilio am ddyn

Mae Heddlu'r De yn chwilio am ddyn o Benllergaer sy'n cael ei amau o ladrata a dwyn cerbyd.

Roedd Jordan Berry, 22 oed, i fod i wynebu'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe, ond doedd dim sôn amdano.

Dywed yr heddlu ei fod yn bum troedfedd a saith modfedd o daldra gyda gwallt melyn a llygaid glas.

Dylai unrhywun â gwybodaeth amdano gysylltu â Heddlu Abertawe ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.