Adroddiad: 'Cyswllt rhwng gamblo a dibyniaeth ar alcohol'

Mae llawer yn gyffredin rhwng problemau alcohol a gamblo, a'r ffyrdd y gellir eu hatal a'u trin yn ôl adroddiad newydd.
Mae Alcohol Concern Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn honni bod problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn gallu cael eu trin gyda'i gilydd.
Yn ôl arolwg o 66 o bobl a fu'n ceisio cymorth am gamddefnyddio alcohol mae un ymhob chwech yn dweud eu bod wedi profi problemau gamblo.
Roedd 94% yn dweud y dylai pobol sy'n gaeth i hapchwarae gael trinaeth debyg i bobl sy'n ddibynnol ar alcohol.
'Canlyniadau niweidiol'
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:
- Dylai fod mwy o ymchwil i effeithiau cyfyngu ar gyfleoedd i gamblo, canfod problemau gamblo, a dulliau newydd i drin y fath broblemau
- Dylai triniaeth am broblemau alcohol a gamblo fel ei gilydd fod ar gael ac wedi'i hariannu'n ddigonol
- Diogelu plant a phobl ifanc yn well
- Creu cronfa ddata genedlaethol a fydd yn cwmpasu'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â gamblo
Dywedodd Mark Leyshon o Alcohol Concern Cymru: "Gallwn ni ystyried camddefnyddio alcohol gamblo gormodol fel ei gilydd yn broblemau iechyd cyhoeddus o bwys, gyda chanlyniadau niweidiol i unigolion a'r gymdeithas ehangach.
"Bu llawer iawn o ymchwil yn y degawdau diwethaf yn rhoi tystiolaeth am atebion posibl er mwyn lleihau camddefnyddio alcohol.
"Mae ymchwil i gamblo ar ei hôl hi o bell, o bosibl gan fod y cysyniad o gaethiwed i gamblo yn un cymharol newydd.
"Mae'n debyg, er hynny, y bydd dulliau sydd wedi cael eu hawgrymu ym maes alcohol, fel cyfyngu ar faint mae alcohol ar gael, tynhau rheolau marchnata, a chyflwyno mesurau llymach i ddiogelu pobl ifanc, hefyd yn effeithiol ar gyfer lleihau problemau gamblo.
'Triniaeth briodol'
Mae'r Athro Jim Orford o Gambling Watch UK wedi cymeradwyo casgliadau'r adroddiad.
"Mae problemau gamblo mor gyffredin erbyn hyn â phroblemau camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon ond dydyn nhw'n cael bron dim sylw o gymharu â hynny," meddai.
"Mae angen i ni ddechrau eu hystyried yn fwy difrifol o lawer."