Dim sylwebaeth Gymraeg gan Sky ar gyfer gemau pêl-droed nesa' Cymru

Joe Allen (ch) a David Vaughan yn taclo Marko Arnautovic o Awstria mewn gêm gyfeillgar diweddar
Joe Allen (ch) a David Vaughan yn taclo Marko Arnautovic o Awstria mewn gêm gyfeillgar diweddar

Mae cwmni Sky wedi cadarnhau na fydd sylwebaeth Gymraeg ar gael yn ystod y ddwy gêm bêl-droed nesa i dîm Cymru.

Ers rhai blynyddoedd mae Sky wedi cynnig gwasanaeth sylwebaeth Cymraeg yn ystod gemau pêl-droed Cymru drwy'r botwm coch.

Ond pan fydd tîm Chris Coleman yn chwarae'r ddwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Mawrth fydd 'na ddim sylwebaeth Gymraeg.

Gan y cwmni lloeren y mae'r hawliau i ddarlledu gemau Cymru, ac yn y gorffennol mae wedi cynnig sylwebaeth Gymraeg ar gyfer gemau cyfeillgar yn ogystal â rhai pencampwriaeth.

Mae Sky Sports wedi cadarnhau na fydd sylwebaeth Cymraeg ar gael ar gyfer y gêm erbyn Yr Alban yn Glasgow ac yn erbyn Croatia yn Abertawe.

Mae'r datganiad yn dweud "nad oes rheidrwydd cytundebol i wneud hynny".

'Ergyd'

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw ar hyn o bryd.

Dywedodd dau o gefnogwyr pêl-droed Cymru bod y penderfyniad yn "siomedig".

"Mae e'n eitha' ergyd, doeddwn i ddim wedi clywed dim tan heddiw," meddai Rhydwen James sy'n gefnogwr Abertawe ac yn gwylio gemau Cymru ar Sky.

"Siomedig iawn. Ni lan fan hyn yn y gorllewin yn gyfarwydd â sylwebaeth yn Gymraeg.

"Fe ddylai fod yn rhan o'r cytundeb a dwi'n rhyfeddu nad yw'r Gymdeithas wedi dweud dim hyd yma.

"Na, dwi'n siomedig iawn gan fod nifer ohonon ni moyn y sylwebaeth yn Gymraeg."

Ychwanegodd Meilyr Emrys, sy'n gefnogwr i'r tîm cenedlaethol ei bod yn syniad gwrthun iawn peidio cael sylwebaeth Cymraeg wrth wylio'r tîm cenedlaethol.

'Arbedion'

"Pan wnaeth Sky benderfynu yn 2004 ddarparu'r gwasanaeth ar y botwm coch roedd 'na lot ar y pryd yn ddiolchgar amdano.

"Mewn byd delfrydol, gyda chymaint o gemau Abertawe a Chaerdydd i'w gweld gan Sky, fe fyddai'n braf gweld y cwmni symud ymlaen a darparu sylwebaeth Gymraeg i'r rhain hefyd.

"Yr unig esboniad dilys alla i weld, nad ydi nifer sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ddigon a bod rhaid i Sky fel pawb arall wneud arbedion.

"Os ydi'r nifer sy'n gofyn yn fach, mae'n wasanaeth y mae galw amdano.

"Yn anffodus bydd rhaid mynd yn ôl i'r hen drefn o wylio'r lluniau a gwrando ar sain Radio Cymru!"