Tenerife: Dyn yn euog o lofruddiaeth

  • 22 Chwefror 2013
Deyan Deyanov
Daeth i'r amlwg wedi'r llofruddiaeth fod Deyanov wedi cael triniaeth mewn uned seiciatryddol yng Nghymru

Mae dyn dderbyniodd driniaeth mewn uned seiciatryddol yng Nghymru wedi ei gael yn euog o lofruddio menyw yn Tenerife yn 2011.

Fe gafodd pen Jennifer Mills-Westley, nain 60 oed, ei dorri gan Deyan Deyanov, 29 oed, wedi ymosodiad mewn siop yn Los Cristianos ar yr ynys ym mis Mai 2011.

Wedi'r llofruddiaeth fe ddaeth i'r amlwg fod Deyanov wedi cael triniaeth mewn uned seiciatryddol yng Nghymru yn ystod haf 2010.

Y gred yw bod Deyanov yn ymweld â theulu pan gafodd ei gadw er ei les ei hun o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn Uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd ger Bodelwyddan.

Roedd Mrs Mills-Westley yn dod o Norwich yn wreiddiol.

Roedd y nain i bump yn byw ar yr ynys ar ôl ymddeol.