Leanne Wood yn galw am ddeddfwriaeth i ethol mwy o ACau benywaidd

Leanne Wood Image copyright BBC news grab
Image caption Dywedodd Leanne Wood nad ydi mesurau mewnol ei phlaid 'bob tro ar ei gryfa'

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud efallai y byddai angen newid yn y gyfraith er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o ferched yn cael eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Leanne Wood nad ydi mesurau i ethol ymgeiswyr benywaidd o fewn ei phlaid ei hun "bob tro ar ei gryfa'".

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler, wedi dweud ei bod am weld mwy o ferched yn cael eu hethol ar ôl gostyngiad yn nifer yr ACau benywaidd.

Er mwyn adfer hyn mae Ms Wood yn dweud efallai y bydd rhaid cyflwyno deddfwriaeth.

Ond wnaeth hi ddim manylu ar ba newidiadau oedd eu hangen.

"O fewn Plaid Cymru, mae 'na ddemocratiaeth mewnol cryf sy'n adlewyrchu sut mae modd dibynnu ar aelodaeth y blaid fel corff ar lawr gwlad," meddai.

"Effaith hynny yw nad yw mesurau i hyrwyddo merched bob tro ar ei gryfa' ond mae angen balans o fewn rheolaeth y blaid leol.

"Dros y blynyddoedd rydym hefyd wedi gweld bod hyn yn wir y tu allan o Blaid Cymru wrth i bleidiau lleol a chanolog ddod ben ben."

Mae Mrs Butler wedi ysgrifennu at arweinyddion y pleidiau yn y Cynulliad gan ddweud bod angen i aelodaeth y siambr adlewyrchu'r boblogaeth.

Yn 2006, roedd 52% o'r 60 o ACau yn ferched ond mae'r nifer wedi gostwng i 44%.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.