Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

Police investigation in Bryn Hafod, Wrexham
Image caption Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam fore Mercher

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff menyw 65 oed gael ei ganfod yn Wrecsam.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi arestio dyn yn ei ugeiniau yn dilyn marwolaeth Glynis Solmaz.

Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn ei chartref ym Mryn Hafod, Parc Caia, fore Mercher, a dywedodd yr heddlu ddydd Gwener eu bod yn trin y farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.

Yn gynharach roedd plismyn wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd Ms Solmaz rhwng y penwythnos diwethaf a dydd Mercher.

Roedd yn byw ar ei phen ei hun gyda dau gi Rottweiler, ac roedd yn mynd â nhw am dro yn yr ardal yn gyson.

Straeon perthnasol