Yr actor Rhys ap William mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad

Rhys ap William fel Cai yn Pobol y Cwm
Cafodd Rhys ap William - oedd yn chwarae rhan Cai yn Pobol y Cwm - anafiadau yn oriau mân bore Sul

Mae'r actor Rhys ap William mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor 37 oed ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, tu allan i dafarn yr Admiral Napier yn Nhreganna, tua 0.19am.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am ymosodiad.

Mae'r actor fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Cai Rossiter yn Pobol y Cwm.

Yn ddiweddar bu hefyd yn y gyfres Indian Doctor ac Alys.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.