Plaid Cymru yn galw am fwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol

  • 25 Chwefror 2013
Heddwas
Dywed Plaid Cymru y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau dros blismona

Dywed Plaid Cymru y dylid trosglwyddo "pwerau sylweddol" i'r Cynulliad Cenedlaethol a hynny "heb oedi diangen".

Gwnaed yr alwad fel rhan o dystiolaeth ysgrifenedig Plaid Cymru i Gomisiwn Silk.

Mae'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad i bwerau'r Cynulliad.

Dywed Plaid Cymru y dylid datganoli "ystod eang o bwerau" ac y byddai hynny'n gwneud i'r setliad datganoli weithio yn well.

Maen nhw'n galw am bwerau sylweddol dros blismona a chyfiawnder troseddol, adnoddau naturiol ac ynni, Stad y Goron a thrafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith y rheilffyrdd a darlledu.

Trosglwyddo pwer

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, y byddai newidiadau o'r fath yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru.

"Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd am drosglwyddo pwerau dros gyfiawnder troseddol, ynni a darlledu i Lywodraeth Cymru.

Ieuan Wyn Jones
Dywed Ieuan Wyn Jones bod angen gwneud llywodraeth yn fwy atebol

"Mae o fudd i Gymru i'r penderfyniadau am hyn gael eu gwneud yng Nghymru, yn arbennig ar gyfer ffordd Gymreig o blismona a chyfiawnder, datblygu cynaliadwy amgylcheddol a rhoi terfyn ar y diffyg democrataidd yn y cyfryngau Cymreig.

"Dylai pwerau eraill gael eu trosglwyddo am eu bod yn gweddu yn well gyda'r pwerau a arferir eisoes gan Lywodraeth Cymru."

Mae Elfyn Llwyd, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud fod angen mwy "o gysondeb yn y setliad datganoli".

"Nawr fod Cymru yn gwneud ei chyfreithiau ei hun, mae angen amlwg am awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig i adlewyrchu hyn, a dylai hyn gael ei gyflwyno ar fyrder, a'i ddilyn gan bwerau plismona Cymreig a phwerau cyfiawnder troseddol.

"Mae'r pwerau hyn gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Yn achos, Gogledd Iwerddon, yn ddiweddar iawn y trosglwyddwyd y rhain - a gwnaed hynny yn gyflym heb fawr ddim problemau.

"Gan nad oes rheswm dros oedi'r cynigion hyn, dylem gael Deddf Llywodraeth Cymru cyn gynted ag sy'n ymarferol fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio'r pwerau hyn er lles pobl Cymru."