Problemau wrth sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru?

Emyr Roberts
Image caption Dywedodd prif weithredwr CNC, Emyr Roberts, nad oedd yn ymwybodol o faint y diffyg yn y cyllid pensiwn

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru'n dangos y gallai problemau annisgwyl achosi goblygiadau difrifol i gorff amgylcheddol newydd sy'n cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Mae wedi dod i'r amlwg fod yna drafferthion gyda system dechnoleg gwybodaeth newydd a bod 'na gostau ychwanegol oherwydd diffyg yn y cyllid pensiwn.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dod i fodolaeth ar Ebrill 1, wrth i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru gael eu huno.

Y nod yw cael corff mwy effeithlon, sy'n cyflawni amcanion amgylcheddol gwell ac yn galluogi arbedion o £158 miliwn dros 10 mlynedd, fyddai wedyn yn cael eu hail-fuddsoddi yn yr amgylchedd ac yn economi Cymru.

Eisoes mae Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, wedi dweud y bydd y corff newydd yn "arwain at ddarpariaeth fwy effeithlon, gwell gwerth am arian a gwell canlyniadau i bobl Cymru" ac y byddai "sefydlu corff newydd yn hanfodol ar gyfer dyfodol cynaliadwy i bobl, amgylchedd ac economi Cymru".

Problemau

Ond mae 'na berygl na fydd system technoleg gwybodaeth (TG) y corff newydd yn barod mewn pryd.

Heblaw am alluogi staff i ffonio ac e-bostio ei gilydd, mae'n hanfodol ar gyfer sicrhau bod y tri chorff yn gallu integreiddio'n effeithiol ac yn ddidrafferth.

Yn ogystal, fydd y £19 miliwn oedd wedi'i glustnodi yn yr achos busnes ar gyfer diffyg yn y cyllid pensiwn - er mwyn uno staff o fewn un sefydliad, gyda'r un amodau a thelerau - ddim yn ddigon.

Wedi cais gan BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ei bod nawr yn ffafrio opsiwn a allai gostio llawer mwy dros 30 mlynedd.

Roedd e-bost a dderbyniodd BBC Cymru'n dweud "y gallai'r ddyled bosib fod tua £50 miliwn," a bod hynny "wedi'i amcangyfrif ar sail gwerth ariannol presennol".

£50 miliwn

Mae 'na bedwar opsiwn ar gael i'r llywodraeth, a oedd yn cynnwys talu £35 miliwn pan oedd staff Asiantaeth Amgylchedd Cymru'n trosglwyddo eu pensiynau unrhyw bryd ar ôl Ebrill 1.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i gymeradwyo opsiwn 4 (£50 miliwn) am mai "dyna'r unig opsiwn sydd ag unrhyw sicrwydd o gael ei gyflawni erbyn Ebrill 1, 2013."

Dywedodd Emyr Roberts, prif weithredwr CNC, a ddechreuodd ar ei waith fis Tachwedd diwetha', y byddai'r broblem gyda'r system TG yn achosi trafferthion.

Ond dywedodd nad oedd yn ymwybodol o faint y diffyg yn y cyllid pensiwn, gan fod yr achos busnes wedi'i etifeddu gan Lywodraeth Cymru a gweision sifil.

"Dydw i ddim yn gyfarwydd â'r ffigurau hynny, dydw i ddim yn gwybod beth fyddai'r ffigwr hwnnw," meddai.

"Fel rwy'n ddeall, mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â phensiynau felly mae 'na rai opsiynau ar gael.

'Rhuthro'

Yn ôl Jon Owen Jones, cadeirydd presennol Comisiwn Coedwigaeth Cymru, mae 'na dystiolaeth amlwg fod y broses o uno'r tri chorff yn cael ei ruthro a'i fod yn debygol o gostio mwy na'r disgwyl.

Dywedod Mr Jones: "Rwy'n credu bod uno'r tri sefydliad yr un pryd yn ofyn mawr, a bod gwneud hynny mor gyflym yn ofyn hyd yn oed mwy.

"Mae'r adran arweiniol wedi bod yn rhy ymroddedig wrth gyflwyno'r polisi am mai nhw feddyliodd amdano yn y lle cynta'.

"Byddai wedi bod yn well petai rhywun oedd yn gallu bod ychydig yn fwy gwrthrychol wedi edrych arno a dweud "mae 'na ychydig o broblem yma, beth am i ni arafu a gwneud pethau'n wahanol?".

Eisoes mae arian ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer sefydlu CNC, nad oedd wedi'i gynnwys yn yr amcangyfrif gwreiddiol.

Dywedodd nifer o ffynonnellau wrth BBC Cymru fod:

  • £2.86 miliwn wedi'i drosglwyddo i CNC o'r tri chorff presennol
  • £1.1 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer ailstrwythuro Fframwaith Amgylcheddol Cenedlaethol
  • £3.5 miliwn ar gael oherwydd tanwario wrth ddelio gyda TB ymhlith gwartheg.

Yn ogystal, mae £2 miliwn wedi'i gymryd o gyllid blwyddyn nesa' i geisio lleddfu'r problemau TG.

Yn ôl yr arbenigwr ariannol, Gweirydd ap Gwyndaf: "Y cwestiwn dyw'r llywodraeth ddim wedi eu hateb yw a ydyn nhw'n mynd i warantu hyn neu ydyn nhw'n mynd i ddisgwyl i'r sefydliad newydd ariannu unrhyw ddyled mas o'u cyllideb nhw'u hunain?

"Os yw'r ddyled yn gallu tyfu, bod dim cap arni, yna mae angen gwybod pwy sy'n mynd i orfod ariannu'r peth achos dyw'r sefydliad newydd ddim yn mynd i fod eisiau cymryd rhwymedigaeth 'mlaen nad yw'n gwybod beth yw ei hyd a'i lled hi."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maent yn cydnabod y bydd y cynllun pensiwn yn costio mwy nag a nodwyd yn y cynllun busnes gwreiddiol, ond bod dadl economaidd gref dros sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.