Llofruddiaeth Wrecsam: Arestio tri dyn arall

Police investigation in Bryn Hafod, Wrexham
Image caption Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam fore Mercher

Mae tri dyn arall wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio menyw yn ei chartref yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym Mryn Hafod, Parc Caia, yn y dref am 10:02am fore Mercher, lle daethon nhw o hyd i gorff Ms Solmaz, oedd yn 65 oed.

Mae tri dyn lleol 52 oed, 34 oed a 29 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Mrs Solmaz ac o gynllwynio byrgleriaeth.

Hefyd ddydd Llun, cafodd Heddlu Gogledd Cymru fwy o amser i holi dyn 23 oed, a gafodd ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'r pedwar dyn a arestiwyd yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu'r dref.

Dywedodd y Ditectif Prif-Arolygydd Mark Hughes: "Mae sawl gŵys i archwilio sawl cyfeiriad yn Wrecsam wedi cael eu rhoi, ac mae'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn dda gyda sawl trywydd i'r ymchwiliad.

"Byddwn yn apelio eto am gymorth gan y gymuned.

"Gofynnaf i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio'r heddlu yn Wrecsam drwy ffonio 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod P026849.

Straeon perthnasol