Cadair arall i'r Prifardd Alan Llwyd

  • 26 Chwefror 2013
Alan Llwyd
Mae'r Gadair yn gydnabyddiaeth o safon nodedig gwaith ymchwil ac ysgrifennu creadigol Alan llwyd ar hyd y blynyddoedd

Mae'r Prifardd Alan Llwyd wedi ei benodi'n Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg Celfyddydau a Dyniaethau Prifysgol Abertawe.

Fel rhan o'r swydd, bydd yr awdur yn cyfrannu at weithgarwch ymchwil y Brifysgol ym maes Astudiaethau'r Gymraeg ac yn rhan o dîm ymchwil Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Ac yntau ar fin rhyddhau cofiant i'r bardd R Williams Parry, bydd yn parhau i ddadlennu a darganfod fel rhan o'r swydd.

Mae ganddo gofiannau i Gwenallt a Waldo Williams ar y gweill a bydd yn paratoi golygiad o gerddi'r bardd o Benfro ar y cyd â Robert Rhys, Darllenydd yn y Gymraeg.

Hedd Wyn

Mae Alan Llwyd yn adnabyddus yn sgil ei waith cyhoeddi ym maes barddoniaeth a beirniadaeth ac fe wnaeth y dwbl dwbl.

Enillodd y Goron a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn gafodd ei henwebu ar gyfer Oscar yn 1994.

Yn ôl Prifysgol Abertawe mae'r Gadair yn gydnabyddiaeth o safon nodedig ei waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol ar hyd y blynyddoedd.

Y llynedd dyfarnwyd Doethuriaeth mewn Llên iddo gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth Gymraeg.

Dywedodd Yr Athro Tudur Hallam, Athro'r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Academi Hywel Teifi: ''Rhyfedd fel na fu'n rhaid i ni grwydro ymhellach na Threforys i benodi ysgolhaig y byddai unrhyw sefydliad ymchwil o bwys rhyngwladol yn falch ohono.

"Nid gormod dweud bod yr hyn a gyflawnodd yr Athro Alan Llwyd ym maes ysgolheictod y Gymraeg yn eithriadol a safon ei gyhoeddiadau diweddar o'r radd flaenaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef.''

Dywedodd yr Athro Alan Llwyd: ''Dyma fraint ac anrhydedd o'r radd flaenaf, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at gydweithio â'r Athro Tudur Hallam a gweddill y tîm ymchwil.

"Gobeithiaf y bydd fy nghyfraniad yn y swydd hon yn ystod y blynyddoedd i ddod yn un sylweddol ac arwyddocaol, ac y byddaf, trwy hynny, yn gaffaeliad i Brifysgol Abertawe yn benodol, ac i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol.''