Cyfeirio cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda at y Gweinidog

Logo Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Image caption Roedd gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda chwe wythnos i ystyried argymhellion y bwrdd iechyd lleol cyn penderfynu eu cyfeirio ai peidio

Bydd cynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

Mae corff sy'n gwarchod buddiannau cleifion yn yr ardal honno'n pryderu am gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n cynnwys newid y ffordd mae gofal brys yn cael ei gynnig yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, a chau'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Mae BBC Cymru hefyd wedi cael ar ddeall fod Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda hefyd wedi cyfeirio'r cynlluniau i gau dwy uned mân anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod a De Penfro at y Gweinidog Iechyd, yn ogystal â chynllun i gau Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn Y Tymbl.

Mae disgwyl i'r Cymuned Iechyd Cymuned gyhoeddi eu penderfyniad yn swyddogol fore dydd Mawrth.

Mae nifer o ymgyrchoedd lleol wedi brwydro i geisio amddiffyn y gwasanaethau.

Cymeradwyo

Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cwrdd ar Ionawr 15 i wneud eu hargymhellion terfynol ar gynlluniau eang i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn yr ardal.

Roedd y cynlluniau'n cynnwys rhoi gofal brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, dan ofal nyrsys yn hytrach na meddygon.

Ond byddai'r ysbyty'n cadw uned asesu a meddygol brys 24 awr y dydd.

Byddai gofal cymhleth i fabanod yn cael ei ganoli yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - gan olygu fod yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg yn cau.

Cymeradwyodd y bwrdd iechyd hefyd gynlluniau i gau unedau mân anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod a De Penfro.

Yn ogystal, byddai Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr - sy'n trin cleifion oedrannus - yn cau, gyda gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y gymuned neu yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

Roedd rheolwyr wedi mynnu bod yn rhaid bwrw 'mlaen gyda'r ad-drefnu er mwyn cwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio, cadw a recriwtio arbenigwyr meddygol, ac i gwrdd â'r pwysau ariannol ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ôl y bwrdd iechyd, fe fydd yr argymhellion yn arwain at "ofal iechyd o'r radd flaenaf i'r boblogaeth leol, nawr ac yn y dyfodol" ac y bydd yn cefnogi'r ymdrech i ofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain a sicrhau fod ysbytai mewn gwell sefyllfa i ddelio â'r cleifion mwya' sâl.

£40 miliwn

Ychwanegodd y bwrdd iechyd na fyddai'r newidiadau yn digwydd tan y bydd yn ddiogel i'w cyflwyno.

Maen nhw hefyd wedi addo y bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn chwe chanolfan iechyd cymunedol, fydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys profion diagnostig, apwyntiadau dydd a ffisiotherapi.

Bydd y rhain wedi'u lleoli yn Aberaeron, Aberteifi, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn ar Daf.

Mae'r BBC yn deall fod y Cyngor wedi ysgrifennu at Leslie Griffiths a'r Bwrdd i esbonio'u penderfyniad i gyfeirio'r cynlluniau.

Os oes unrhyw gynigion yn cael eu cyfeirio, yna mae'n rhaid i'r cyngor gynnig opsiynau eraill y maen nhw'n credu fyddai'n well i gleifion.

'Siom'

Mewn ymateb i benderfyniad y cyngor, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda:

"Rydym wedi'n siomi gyda'r cyfeiriad yma gan ein bod wedi cael cyfres o gyfarfodydd adeiladol gyda'r cyngor iechyd cymuned dros y tair wythnos ddiwetha' a doedden ni ddim yn credu'n bod wedi cyrraedd diwedd y broses honno, fel sydd wedi'i nodi yn y canllawiau i Gymru.

"Rydym yn edrych 'mlaen at weithio gyda'r cyngor iechyd cymuned a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r broses gyfeirio ffurfiol."

Yr wythnos ddiwetha' penderfynodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr roi eu cefnogaeth i gynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Roedd y penderfyniad wedi denu beirniadaeth eang gan ymgyrchwyr a rhai gwleidyddion lleol o'r pedair prif blaid.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.