John Walter Jones: Ydyn ni angen y Comisiynydd?

  • 26 Chwefror 2013

Mae un o gyn brif weithredwyr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, John Walter Jones, wedi cwestiynu a oes angen Comisiynydd y Gymraeg.

Roedd John Walter Jones yn siarad mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio bwrw 'mlaen gyda rhestr o safonau a argymhellwyd gan y Comisiynydd.

Wrth siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd nad oedd penderfyniad Leighton Andrews wedi ei synnu.

"Rwy'n cytuno gydag o, pan y'ch chi'n darllen geiriau fel rhy gymhleth, afresymol, anghymesur, dim digon o ystyriaeth o effaith, pwy fyddai'n disgwyl i'r fath ddogfen i gael derbyniad cyffredinol ar draws Cymru?

"A dyna beth mae cynllun ei angen os yw'n mynd i weithio, mae angen i bobl ar draws Cymru i dderbyn yr hyn sy'n cael ei ddweud, ac yn amlwg roedd y gweinidog yn teimlo na fyddai hwn yn cael cefnogaeth gyffredinol ar draws Cymru, a heb y gefnogaeth honno, does yna ddim dyfodol i'r iaith Gymraeg.

'Cymryd amser'

"Yr hyn sy'n fy mhoeni i, yw bod hwn eto yn mynd i gymryd amser...

"Mae angen gweithredu nawr o ran dyfodol y Gymraeg... ac mae yna bethau syml all ddigwydd, a dwi'n meddwl y gallai'r gweinidog, a'i gyd weinidogion, gymryd cyfrifoldeb drostyn nhw.

"Pe bai ganddo fo gynllun gweithredu oedd yn cwmpasu holl agweddau Llywodraeth Cymru, a phe bai pob gweinidog yn amlinellu beth y gallai fo neu hi ei wneud o ran cefnogi'r iaith Gymraeg: pethau syml fel defnyddio'r cyfreithiau cynllunio, sicrhau bod grantiau a roddir i gyrff yn ystyried yr iaith Gymraeg...

"Gall pethau fel yna ddigwydd heb ddeddfwriaeth.

"Achos dwi ddim yn meddwl y gellwch chi ddeddfu bywyd i iaith nac iaith i fywyd.

"Ydyn ni angen y Comisiynydd? Ydyn ni'n gwybod pwy sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg? Pwy sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw? Dwi ddim yn gwybod, dwi ddim yn deall...

"Yr hyn rydyn ni ei angen yw cefnogaeth pobl sy'n Ddi-Gymraeg, a dwi ddim yn credu y bydd llwybr deddfwriaeth... yn fodd i'w denu nhw."

Dywedodd llefarydd Comisinydd y Gymraeg: "Mae'r Comisiynydd yn awr yn canolbwyntio ar ymateb yn bositif i lythyr y Gweinidog... Ni fydd yn ymateb i sylwadau John Walter Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn rhagweld y gallwn wneud y Safonau Iaith Gymraeg cyntaf cyn diwedd 2014.

"Mae hyn yn gynt nag ym model arfaethedig y Comisiynydd.

"Mae'r Gweinidog wedi gwneud yn glir ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r Gymraeg a'i fod am weld mwy o bobl yn cael y cyfle i'w defnyddio bob dydd.

"Rydym yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith wrth i ni barhau i gydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg i adeiladu ar ei hymarfer ymgynghori a cheisio dull cliriach a symlach o sicrhau safonau sy'n ymwneud â'r Gymraeg."

'Deall ei gilydd'

Wrth gael ei holi ar y Post Cyntaf fore dydd Mawrth, dywedodd Alun Ffred Jones, y gweinidog wnaeth gyflwyno'r mesur iaith yn 2010, ei fod yn siomedig iawn ynglŷn â'r sefyllfa sy'n un "eithriadol o drist".

"Bwriad y mesur oedd creu safonau oedd yn glir i'r defnyddiwr a bod y defnyddiwr yn gallu dweud 'Dwi'n disgwyl y gwasanaeth yma, dwi'n mynd i'w gael o gan fod gen i hawl ei gael'.

Alun Ffred Jones
Dywedodd y cyn-weinidog y byddai wedi disgwyl gwell cyd-weithio rhwng y Comisiynydd a'r Gweinidog

"Dwi'n disgwyl i'r Comisiynydd a'r Gweinidog, o gofio pwysigrwydd y mesur i ni'r Cymry Cymraeg, dwi'n disgwyl eu bod wedi dod i ddeall ei gilydd erbyn hyn a trist iawn nad ydyn nhw.

"Mae hi'n feirniadaeth gref iawn iawn gan Leighton Andrews ac mae ganddo drac record o ymosod ar sefydliadau eraill."

Dywedodd ei bod hi'n amser i symud ymlaen o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

"Pwrpas safonau oedd dod ac eglurder a symlrwydd i'r sefyllfa.

"Dwi ddim isio beirniadu'r Comisiynydd, dydi'r gwaith ddim yn hawdd ond roeddwn wedi disgwyl gwell dealltwriaeth rhwng y Comisiynydd a'r Gweinidog ar y mater yma er mwyn symud ymlaen a gwneud rhywbeth...ddim isio siarad mae eisiau gweld rhywbeth yn cael ei wneud."

Fe wnaeth Mr Jones ddweud bod hi'n gwbl annerbyniol hefyd bod 'na ddwy flynedd ers i'r mesur ddod i rym ac na fyddai'r safonau dan sylw wedi dod i rym tan y flwyddyn nesa.