Ailwampio tŵr enwog Moel Famau

  • 27 Chwefror 2013
Tŵr y Jiwbilî ar Foel Famau
Bydd y gwaith yn dadorchuddio rhan o’r twr sydd heb gael ei gweld ers canrif

Mae Tŵr y Jiwbilî ar gopa Moel Famau, un o adeiladau amlycaf y gogledd ddwyrain, ar fin cael ei ailwampio'n sylweddol.

Mae rhannau o'r tŵr 19eg ganrif yn dechrau dirywio ac mae hi wedi mynd yn gynyddol anodd cael mynediad iddo.

Er hynny, mae dros 200,000 o ymwelwyr yn dringo'r mynydd pob blwyddyn i ymweld â'r twr.

Codwyd Tŵr y Jiwbilî ym 1810 i ddathlu Jiwbilî Aur Brenin Siôr III.

Cafodd y tŵr gwreiddiol 120 troedfedd o uchder ei ddymchwel gan y gwynt yn ystod y 1860au.

Cafodd ei ailwampio'n sylweddol ym 1969, ond ers hynny ychydig iawn o waith cynnal a chadw sydd wedi ei wneud.

Yn 2009, comisiynodd cynghorau sir y Fflint a Dinbych benseiri cadwraeth arbenigol, TACP, i wneud astudiaeth o gyflwr yr adeilad ac i gyflwyno argymhellion o ran ei atgyweirio a'i atgyfnerthu.

Bellach, gyda chymorth ariannol o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gall y gwaith ddechrau.

Tro cyntaf mewn canrif

Dywedodd Fiona Gale, Archaeolegydd Sir Ddinbych:

"Mae astudiaeth drwyadl o'r tŵr wedi amlygu rhannau allweddol y mae angen eu hatgyweirio a'u hatgyfnerthu.

"Bydd seiri maen yn defnyddio technegau traddodiadol i atgyweirio'r gwaith maen yn ofalus.

"Rydym hefyd yn gobeithio dadorchuddio rhan o gornel y tŵr sydd wedi'i gladdu o dan y ddaear am gan mlynedd a bydd yn cynnig ymdeimlad gwell o lawer o'i faint gwreiddiol."

Moel Famau
Moel Famau yw'r man uchaf ym mryniau Clwyd

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd sgaffaldiau yn gorchuddio'r tŵr wrth i'r gwaith atgyweirio gychwyn.

Ond bydd cyfleoedd i weld yr hyn sy'n digwydd yn ystod cyfres o ymweliadau arbennig â'r safle dros y 3 mis nesaf.

Ychwanegodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

"Gydag uchder o fwy na 1800 troedfedd - sef y man uchaf ym Mryniau Clwyd - bydd gweithio ar gopa Moel Famau yn heriol - yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae'r ddau gyngor yn gobeithio bydd y gwaith wedi gorffen erbyn diwedd mis Mai 2013.