Cyn-löwr yn gadael £10,000 i lyfrgell Prifysgol Aberystwyth

Rhys Thomas Lewis
Bu farw Mr Lewis yn 108 oed y llynedd

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael rhodd o £10,000 gan y cyn-löwr a'r athro hanes, Rhys Lewis a fu farw'r llynedd yn 108 oed.

Fe gafodd yr arian ei adael i lyfrgell y Brifysgol.

Mae 'na gynlluniau i'w ddefnyddio i ychwanegu at y casgliad yn adran hanes y llyfrgell ac yn cael ei chydnabod ym mhob cyfrol sy'n cael ei hychwanegu.

Graddiodd Mr Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn 1931 ar ôl astudio Hanes a Hanes Economaidd, ac aeth ymlaen i gwblhau tystysgrif athro, hefyd yn Aberystwyth, yn y flwyddyn ganlynol.

Cafodd rhodd Mr Lewis ei chyflwyno i'r Brifysgol gan ei fab, John a'i bartner Ms Brenda Dobney.

Llangennech

Mewn derbyniad yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol, dywedodd John Lewis; "Bu Aberystwyth yn ffurfiannol yn addysg fy nhad.

"Mwynheuodd ei amser yma yn fawr iawn, er mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn iddo yn economaidd.

"Teimlai ei fod am adael rhywbeth parhaol ac mai'r ffordd orau o wneud hyn oedd cynorthwyo llyfrgell y Brifysgol."

Yr Hen Goleg, Aberystwyth
Graddiodd Mr Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn 1931 ar ôl astudio Hanes a Hanes Economaidd

Ganwyd Mr Lewis i deulu o lowyr ym mhentref Llangennech yn Sir Gâr ym 1903, ac aeth i weithio dan ddaear yn 14 oed.

Roedd yn benderfynol o wella ei hun, a mynychodd ddosbarthiadau nos wrth weithio ar y ffas gan fatricwleiddio yn 1926.

Yn ystod Streic Gyffredinol 1926 ef oedd ysgrifennydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yng nghyfrinfa ei bwll a'r flwyddyn ganlynol aeth i Goleg Prifysgol Cymru Abertawe fel myfyriwr aeddfed, lle'r oedd yn gobeithio astudio i fod yn beiriannydd mwyngloddio.

'Wirioneddol ysbrydoledig'

Yn 1928 symudodd i Aberystwyth i astudio hanes a hanes economaidd.

Ar ôl graddio yn 1931 arhosodd ymlaen am flwyddyn arall i gwblhau ei dystysgrif athro.

Parhaodd gyda'i astudiaethau wrth weithio fel athro yn Llundain.

Yn 1949, ar ôl cyfnod yn dysgu yn Norfolk, fe'i penodwyd yn ddarlithydd a phennaeth hanes yng Ngholeg Hyfforddiant Easthampstead Park, ger Wokingham yn Berkshire.

Roedd yn brif ddarlithydd yno ar adeg ei ymddeoliad yn 1970.

Priododd Mr Lewis ei wraig Louise ym 1935. Bu hithau farw yn 1994. Mae'n gadael ei ddau fab, John a Peter, saith o wyrion a phump o or-wyrion.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: "Mae stori Mr Lewis yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn brawf o'r hyn sydd gan addysg prifysgol i'w gynnig i fyfyrwyr aeddfed.

"Rwy'n arbennig o falch y bydd ein myfyrwyr hanes yn cael y cyfle i wneud rhai argymhellion ar gyfer llyfrau i'w prynu o'r gymynrodd bwysig hon."