Iechyd: Methu argyhoeddi'r etholwyr

Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd yn Sir y Fflint pan gafodd newidiadau eu cadarnhau y mis diwethaf
Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd yn Sir y Fflint pan gafodd newidiadau eu cadarnhau y mis diwethaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu argyhoeddi'r etholwyr o'r angen i newid gwasanaethau ysbytai Cymru, yn ôl arolwg barn a gomisiynwyd gan BBC Cymru.

Dywedodd bron i dri chwarter o'r rhai a holwyd y dylai eu hysbytai cyffredinol lleol barhau i ddarparu'r ystod bresennol o wasanaethau.

Gyda chynlluniau i newid gwasanaethau ysbytai yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru eisoes yn achosi stormydd gwleidyddol, a chyda chynlluniau ar gyfer y de eto i'w cyhoeddi, mae canlyniadau'r arolwg yn newyddion drwg i Lywodraeth Cymru.

Dim ond 23% o'r 1,000 o bobol a holwyd gan ICM oedd yn dweud y dylai cleifion deithio allan o'u hardaloedd i dderbyn gwell gwasanaeth, tra roedd 74% yn dymuno gweld eu hysbytai lleol yn parhau i ddarparu'r ystod bresennol o wasanaethau.

Arweinwyr

Ond mae'n ymddangos nad yw'r ffrwgwd ynghylch iechyd wedi niweidio poblogrwydd Carwyn Jones.

Ef o bell ffordd yw'r arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda Leanne Wood yn ail, Kirsty Williams yn drydydd ac Andrew RT Davies yn bedwerydd.

Ond mae'r pedwar i gyd yn fwy poblogaidd nag Ed Miliband, David Cameron a Nick Clegg.

Yn ôl ICM yn ogystal roedd:

  • Carwyn Jones oedd â'r lefel gymeradwyaeth uchaf o bell ffordd ymysg arweinwyr gwleidyddol Cymru a'r DU, gyda 55% yn credu ei fod yn gwneud gwaith da, o gymharu â 21% a ddywedodd ei fod yn gwneud gwaith gwael - lefel gymeradwyaeth o 34 pwynt. Sgoriodd David Cameron -22, Ed Miliband -19 a Nick Clegg -42. Sgoriodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies -5, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams 2 ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood 14. Ond roedd cyfran uwch o bobl ddim yn gwybod pa sgôr i roi i arweinwyr y pleidiau Cymreig.
  • 36% o bobl eisiau Cynulliad mwy grymus, roedd 20% eisiau dileu'r sefydliad, a 9% yn credu y dylai Cymru fod yn wlad annibynnol y tu allan i'r DU.
  • 66% yn credu y dylai'r Cynulliad gael o leiaf peth grym i amrywio trethi.
  • 47% o'r farn y dylai'r Cynulliad fod yn gyfrifol am blismona, 27% yn dweud y dylai'r grym hwnnw aros gyda Llywodraeth y DU, a 21% yn credu mai awdurdodau lleol ddylai fod yn gyfrifol.
  • 46% o bobl yn credu bod Cymru yn cael ei chyfran deg o doriadau gwariant llywodraeth y DU, tra bod 36% yn credu bod Cymru yn cael ei thario'n fwy caled nag y dylai.

Mae cynlluniau'r byrddau iechyd yn y gorllewin a'r gogledd wedi eu beirniadu'n hallt gan brotestwyr, ond mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" oni bai bod ailstrwythuro o fewn ein hysbytai.

Wedi i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi dywedodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru, bod rhaid i'r gwasanaeth iechyd wneud gwelliannau sylweddol.

"Mae'r byrddau iechyd wedi gweithio yn galed i gasglu barn cynifer ar y modd y dylai'r gwasanaethau ateb gofynion y dyfodol.

"Mae'r cynlluniau yn edrych ar wasanaethau arbenigol ac mae'n fwriad o hyd gan y gwasanaeth iechyd i gynnig y mwyafrif o ofal y tu allan i ysbytai a hynny yn agos at gartrefi'r cleifion".