Jay Harris i golli pedair gêm nesaf Wrecsam ar ôl cael cerdyn coch

  • 27 Chwefror 2013
Jay Harris
Dyma ail gerdyn coch Jay Harris y tymor yma

Fe fydd chwaraewr canol cae Wrecsam yn colli'r pedair gêm nesa.

Cafodd Jay Harris gerdyn coch yn y gêm yn erbyn Barrow nos Fawrth.

Wrecsam enillodd y gêm o gôl i ddim er eu bod i lawr i 10 dyn wedi 62 munud.

Fel rheol mae derbyn cerdyn coch yn golygu gwaharddiad o dair gêm.

Ond ar wefan y clwb mae Wrecsam wedi dweud y bydd yn derbyn gwaharddiad ychwanegol o un gêm gan mai dyma ei ail gerdyn coch y tymor yma.

Fe wnaeth Harris wrthdaro gyda Alex-Ray Harvey mewn "moment o wallgofrwydd" yn ôl gwefan y Dreigiau.

Mae'r clwb wedi cadarnhau y bydd Harris yn colli'r ddwy gêm gartref yn erbyn Alfreton Town ac Ebbsfleet United yn ogystal â'r ddwy gêm oddi-cartref yn erbyn Dartford a Lincoln City.

'Ymddiheuro'

"Roedd Jay yn wirion," meddai rheolwr y Dreigiau, Andy Morrell wedi'r gêm.

"Mae o wedi ymddiheuro i'r chwaraewyr wedyn.

"Fe wnaeth gwaharddiadau gostio'n ddrud i ni y llynedd.

"Mewn moment o wallgofrwydd roeddem i lawr i 10 dyn oedd yn gwneud pethau yn anoddach i ni."

Dywedodd mai dyna arddull Jay, chwarae yng ngwyneb y gwrthwynebydd a thaclo.

"Mae'n chwaraewr gwych ac mae o wedi bod yn fwy gofalus ac rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir.

"I fod yn deg roedd yn haeddu cerdyn coch ac mae o'n gwybod hynny.

"Fe allai'r digwyddiad fod wedi golygu ein bod wedi colli'r gêm, ond yn ffodus wnaethon ni ddim."

Yn y gêm hefyd cafodd amddiffynnwr y Dreigiau Martin Riley anaf i linyn y gar a does dim disgwyl iddo gymryd rhan yn y gemau nesaf.

Mae Wrecsam yn parhau ar frig tabl Uwch Gynghrair Blue Square wedi'r fuddugoliaeth nos Fawrth.