Damwain: Menyw yn yr ysbyty

  • 28 Chwefror 2013

Mae cerddwr yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn damwain â char ym Merthyr Tudful.

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion wedi i Ford KA arian fod yn rhan o'r digwyddiad ar yr A465 ym Mhant toc wedi 10pm nos Fercher.

Mae'r fenyw yn cael ei thrin yn Ysbyty'r Tywysog Siarl am anafiadau difrifol i'w phen a'i choesau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.