Mynd i Gorwen Hefo Alys yw'r Gân i Gymru 2013

Rhys Gwynfor ac Osian Williams Image copyright Cân i Gymru
Image caption Mae Rhys Gwynfor ac Osian Williams yn ennill gwobr o £3,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon

Enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni yw'r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys gan Rhys Gwynfor ac Osian Williams, dau aelod o Jessop a'r Sgweiri.

Maen nhw'n ennill gwobr o £3,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Elin Fflur a Dafydd Du gyflwynodd y gystadleuaeth a gafodd ei darlledu yn fyw ar S4C o hen adeilad y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd nos Wener.

Eisoes eleni roedd y chwech oedd wedi cyrraedd y Rhestr Fer wedi derbyn £900 er mwyn recordio a chynhyrchu eu cân mewn stiwdio o'u dewis nhw.

Y pump arall ar y Rhestr Fer eleni oedd:

  • Alun Evans gyda'r gân Breuddwydion Ceffylau Gwyn
  • Catrin Herbert gyda'r gân Ein Tir Na Nóg Ein Hunain
  • Elin Parisa Fouladi a Ben Dabson gyda'r gân Aur ac Arian
  • Geth Vaughan a Pete Jarvis gyda'r gân Amser Mynd i'n Gwlâu
  • Rhydian Gwyn Lewis gyda'r gân Bywyd Sydyn

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.