Gwarchodfa natur newydd yn y canolbarth

Coetir Gregynog
Penderfynwyd dynodi Gregynog oherwydd y clytwaith o dir parc a choetiroedd hynafol sy'n amgylchynu'r neuadd

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cyhoeddi mai Gregynog ger Y Drenewydd yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol ddiweddaraf Cymru.

Neuadd wledig fawr ym mhentref Tregynon ger Y Drenewydd yw Gregynog.

Prifysgol Cymru sy'n berchen arni, ac mae wedi'i hamgylchynu gan 750 hectar o dir.

Bydd y warchodfa'n cael ei dynodi gan y Cyngor Cefn Gwlad (CCG) mewn digwyddiad arbennig am 11am Ddydd Mercher.

'Coetiroedd hynafol'

Dywed y CCG fod dynodi'r safle'n Warchodfa Natur Genedlaethol yn 'cadarnhau bod ystâd Gregynog ymhlith safleoedd pwysicaf Cymru o safbwynt tir parc a choed pori, coed hynafol, a chennau, pryfed a bywyd gwyllt arall rhyngwladol bwysig a gaiff eu cynnal gan y cynefinoedd prin yma'.

Dywedodd Dr Maggie Hill, Cyfarwyddwr Rhanbarth De a Dwyrain Cymru o fewn y CCG: "Penderfynwyd dynodi Gregynog oherwydd y clytwaith cyfoethog o dir parc a choetiroedd hynafol sy'n amgylchynu'r neuadd.

"Yng Ngregynog y mae un o'r enghreifftiau mwyaf yng Nghymru o goetir hynafol - 'Y Goedwig Fawr', fel y mae'n cael ei galw.

"Mae ambell dderwen yma'n dyddio'n ôl 350 o flynyddoedd a mwy.

"Ond nid y coed eu hunain yw'r unig elfennau pwysig. Yn wir, mae cennau prin yn gorchuddio rhisglau ceinciog y coed derw a'r coed ynn.

Llwybr troed

"Lecanora sublivescens yw un o'r cennau yma, y mae modd dod o hyd iddo ar foncyffion sydd yn llygad yr haul.

"Dyma rywogaeth anfynych drwy'r byd i gyd - dim ond yn y fan yma yn y DU ac yn ne Sweden y gwyddom am enghreifftiau."

Ymhellach, mae'r pryfetach yn gwneud ystâd Gregynog yn lle arbennig iawn i fywyd gwyllt, gyda larfau nifer o chwilod a phryfed yn byw ym mhren marw a phydredig y coed mawr a'r coed marw sydd naill ai wedi syrthio neu sy'n dal i fod ar eu sefyll.

Mae dynodi'r safle'n Warchodfa Natur Genedlaethol hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod Gregynog yn rhywle y gall y cyhoedd fynd iddo i fwynhau cefn gwlad.

Ceir sawl llwybr troed drwy'r tir parc.