Canslo ymweliad y Frenhines

Y Frenhines
Image caption Cafodd cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.

Ni fydd y Frenhines yn ymweld ag Abertawe ddydd Sadwrn oherwydd salwch.

Roedd y Frenhines i fod i gyflwyno cennin i aelodau o'r Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol mewn seremoni draddodiadol.

Mae'r cyflwyniad fel arfer yn digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond penderfynwyd ei chynnal ddydd Sadwrn eleni.

Roedd yr ymweliad i fod i ddilyn ymweliad y Tywysog Charles a Duges Cernyw i dde Cymru ddydd Gwener.

Ond nos Wener, daeth y cyhoeddiad gan Balas Buckingham ei bod wedi cael cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.

Deellir ei bod yn dioddef o anhwylder ar ei stumog.

Straeon perthnasol