Ben Thompson: Torri nôl ar ymdrechion

Ben Thompson Image copyright South Wales Police
Image caption Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd, Caerdydd, am 7:17pm nos Sadwrn, Chwefror 2, 2013

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn torri nôl ar eu hymdrechion i ddod o hyd i Ben Thompson, 34 oed o Hwlffordd, a ddiflannodd ar ôl mynd i weld gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.

Yn ôl yr heddlu dydyn nhw ddim yn chwilio'n ddyddiol bellach amdano, er eu bod nhw yn bwriadu parhau i chwilio yn achlysurol.

Roedd Mr Thompson wedi teithio i Gaerdydd gyda'i ffrind wedi iddo ennill tocynnau ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe ffoniodd ei wraig Jo wedi'r gêm i ddweud wrthi ei fod yn mynd i'w hoff dafarn yn y ddinas.

Fe'i gwelwyd gan ffrindiau am y tro olaf yn Lôn y Felin tua 6.30pm.

Image copyright South Wales Police
Image caption Aeth Mr Thompson i'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i gyfeiriad Lawrenny Avenue am 7.17pm.

Mae'r lluniau yn ei ddangos funudau wedyn yn cerdded i lawr lôn ar waelod y ffordd honno.

Mae Mr Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt byr brown a llygaid glas.

Roedd yn gwisgo bŵts brown, jîns glas a chrys gwyn gyda streipen las denau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, dylid cysylltu gyda'r heddlu yng Ngorsaf Bae Caerdydd ar 02920 338 465.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.