Cyngor Powys: Toriadau gwerth £30 miliwn

  • 4 Mawrth 2013
Pencadlys Cyngor Powys
Roedd y cyngor sir wedi dweud y gallai 200 o'i staff golli eu swyddi

Mae Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gyfres o doriadau gwerth £30 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r awdurdod yn gobeithio y bydd modd tocio bron £20 miliwn o fewn y flwyddyn gyntaf.

Bydd £8 miliwn o'r arian hwn yn cael ei dorri o'r gyllideb gyflogau.

Roedd y cyngor sir wedi dweud y gallai 200 o'i staff golli eu swyddi yn sgil y toriadau ond erbyn hyn maen nhw'n gobeithio y bydd y nifer yn nes at 125 oherwydd diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau.

Ymchwiliad cyhoeddus

Penderfynodd cynghorwyr hefyd godi treth y cyngor o 2.75% y flwyddyn nesa.

Bydd 0.5% o'r arian hwn yn talu am gostau'r awdurdod lleol sy'n ymwneud ag ymchwiliad cyhoeddus ynghylch ceisiadau cynllunio am bum fferm wynt yn y sir.

Cafodd penderfyniad ynglŷn â phecyn o doriadau ei ohirio pan oedd cyfarfod ar Chwefror 21.

Roeddc undeb Unison yn gwrthwynebu'r cynllun i dorri swyddi a allai arbed £4.8 miliwn i'r cyngor.

Mae cabinet y cyngor wedi argymell torri 75% o grantiau cymunedol.

Ond yn sgil gwrthwynebiad, ddydd Llun penderfynodd y cyngor eu bod yn bwriadu torri 10% o grantiau cymunedol a chyflwyno'r toriadau dros gyfnod o dair blynedd.