Syrffiwr wedi marw er bod ymgytch achub yn Sir Benfro

Freshwater West (Llun: Cyngor Sir Penfro) Image copyright Pembrokeshire council
Image caption Roedd yr ymgyrch achub yn Freshwater West

Mae syrffiwr 45 oed o Sir Benfro wedi marw ar ôl cael ei dynnu o'r môr.

Trefnodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau ymgyrch achub ar draeth Freshwater West ger Penfro tua 9am ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Bydd archwiliad post mortem ddydd Mawrth ac mae Crwner Sir Benfro wedi ei hysbysu.

Straeon perthnasol