Damwain: Ffordd ynghau ger Caerffili

Mae ffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn damwain rhwng lori a fan ym Mhengam, Caerffili.

Bu'r gwrthdrawiad ar gyffordd yr A4049 Ffordd Pengam a'r B4254 ger Ysgol Gyfun Cwm Rhymni tua 5.50am ddydd Mawrth.

Cafodd criwiau tân o Gefn Fforest a Phontypridd ac uned achub o Gasnewydd eu hanfon i'r safle, ac fe gafodd un person ei dorri'n rhydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.