Rôl Comisiynydd y Gymraeg 'ddim wedi'i thanseilio'

  • 6 Mawrth 2013
Meri Huws
Mae Meri Huws yn gwadu bod penderfyniad Leighton Andrews yn tanseilio ei rôl hi fel Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gwadu bod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi tanseilio ei swydd.

Fis diwetha' fe wrthododd Leighton Andrews argymhellion y Comisiynydd ar safonau iaith.

Yn ôl Meri Huws, doedd hi ddim yn ymwybodol y byddai'r safonau drafft yn cael eu gwrthod.

Mynnodd nad oedd hyn yn tanseilio ei rôl ond dywedodd fod yna le i ddatblygu'r berthynas rhwng y Comisiynydd a'r llywodraeth.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Ms Huws: "Dwi'n credu bod yr ymgynghoriad safonau wnaethon ni yn PR arbennig o dda.

"Mae'r ffaith fod 261 o unigolion, sefydliadau a mudiadau wedi bwydo mewn i'r drafodaeth yna mewn modd mor gadarn yn PR gwych.

"Rydyn ni wedi rhoi statws i'r drafodaeth yma yng Nghymru a byddwn ni'n parhau i wneud hynny.

"Y Llywodraeth ar ddiwedd y dydd sydd â chyfrifoldeb am ddrafftio'r safonau - mae hynny yn y mesur yn glir.

"Cyfrannu at y broses wnaethon ni yn fy rôl i fel Comisiynydd a'r cyfrifoldeb sydd arna' i fel person, i ryw raddau, sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr y Gymraeg a statws y Gymraeg yng Nghymru."

'Dim yn cyflawni'r nod'

Ar lawr y Senedd ddydd Llun, mynnodd Leighton Andrews fod ei benderfyniad yn cadarnhau annibynniaeth y Comisiynydd.

Ddiwedd mis Tachwedd 2012, cyhoeddodd Ms Huws 37 o safonau drafft mewn perthynas â'r Gymraeg yn dilyn ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd ganddi rhwng mis Mai a mis Awst 2012.

Yn ôl Mr Andrews, fe wrthododd yr argymhellion oherwydd na fyddai'r safonau, na'r model gweithredu arfaethedig, yn cyflawni'r nod o roi hawliau clir i siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith pan eu bod nhw'n dewis gwneud hynny.

Dywedodd datganiad ar ran y llywodraeth fod Mr Andrews "yn bwriadu datblygu cyfres o safonau, yn seiliedig ar ymgynghoriad y Comisiynydd, a fydd yn bodloni'n llwyr y nodau polisi a adlewyrchir yn y Mesur a'r ymrwymiadau a wnaed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y Gweinidog, fel yr oedd bryd hynny".

'Cydweithio'

Yn ôl Ms Huws, mae angen iddi hi a'r llywodraeth weithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu perthynas.

Meddai: "Ry'n ni'n gorff newydd, mae hon yn berthynas newydd a rhan o'r cyfrifoldeb yw sortio allan sut byddwn ni a'r llywodraeth yn cydweithio er mwyn sicrhau budd y Gymraeg....Ar ddiwedd y dydd, mae'r Comisiynydd yn gorff annibynnol".

Pwysleisiodd Ms Huws mai dim ond ers mis Ebrill y llynedd yr oedd y swydd Comisiynydd yn bodoli, ac meddai:

"Gadewch i ni gael amser i symud y drefn yma 'mlaen, gadewch i ni gael amser i'r Comisiynydd brofi'r rôl a rhoi amser i Lywodraeth Cymru i chwarae eu rôl nhw o ran Mesur y Gymraeg hefyd."