Cymry Llundain: Undeb Rygbi'n oedi

Tyson Keats
Image caption Ymunodd Tyson Keats â'r clwb o Aironi yn yr Eidal yn 2012

Bydd yn rhaid i Glwb Rygbi Cymry Llundain aros i glywed a fyddan nhw'n cael eu cosbi am ddefnyddio chwaraewr anghymwys mewn gemau yn Uwchgynghrair Lloegr.

Gohiriodd Undeb Rygbi Lloegr cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r achos yn dilyn gwrandawiad ddydd Mawrth.

Bydd panel yr undeb yn "ystyried ein penderfyniad fydd yn cael ei ddatgan maes o law".

Mae Cymry Llundain wedi cadarnhau mai'r mewnwr o Seland Newydd, Tyson Keats, yw'r chwaraewr dan sylw.

Dyrchafiad

Ymunodd Keats, 31 oed, â'r clwb o Aironi yn yr Eidal yn 2012.

Mae'n bosib y bydd Cymry Llundain yn colli pwyntiau os byddant yn cael eu cosbi.

Y clwb diwethaf yn Uwchgynghrair Lloegr i gael eu cosbi drwy golli pwyntiau oedd Caerwysg, a gollodd ddau bwynt yn Ebrill 2011 am faesu gormod o chwaraewyr tramor yn erbyn Leeds Carnegie.

Cafodd Cymry Llundain eu dyrchafu i'r Uwchgynghrair y tymor diwethaf ac ar hyn o bryd maen nhw yn y safle olaf ond un.

Mae'r clwb dri phwynt uwchlaw Sale Sharks gyda chwe gêm o'r tymor yn weddill.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.