Caerdydd yn croesawu ras hwylio o amgylch y byd yn 2017

  • 6 Mawrth 2013
Tîm Groupama o Ffrainc enillodd ras hwylio Volvo yn 2012
Tîm o Ffrainc enillodd y ras yn 2012

Cymru fydd yn croesawu ras hwylio o amgylch y byd am y tro cyntaf yn 2017-18.

Bydd Ras Hwylio Volvo yn dechrau yng Nghaerdydd wrth iddi gael ei chynnal 13ydd tro.

Prif Swyddog Gweithredu'r Ras, Tom Touber, gyhoeddodd hyn yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.

Symudodd Ras Hwylio Volvo, ddechreuodd yn Portsmouth fel Ras Whitbread o Gwmpas y Byd ym 1973, o Loegr i Alicante, Sbaen, yn 2010.

'Yn drawiadol'

Y tro diwethaf i'r ras fod yn y DU oedd yn Portsmouth yn 2005-06.

"Mae'n wych cyhoeddi y bydd y ras unwaith eto yn dechrau ar arfordir Prydain ac mae'r ffaith ei bod yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf yn gyffrous," meddai Mr Touber.

"Roedd cyflwyniad Caerdydd yn drawiadol a chyda'r fath gyfleusterau a brwdfrydedd rwy'n siŵr y bydd yn ddigwyddiad i'w gofio."

Yn bresennol yn yr Eglwys Norwyaidd roedd Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Heather Joyce, ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Huw Thomas.

Dywedodd Mrs Hart: "Mae Ras Hwylio Volvo yn ddigwyddiad byd-eang ac mae'r ffaith y bydd yn dod i Gaerdydd mewn ychydig o flynyddoedd yn dangos enw da Cymru fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau o'r radd flaenaf.

'Hwb economaidd'

"Bydd Ras Hwylio Volvo yn rhoi hwb economaidd sylweddol i Gaerdydd a Chymru.

"Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i Gymru fydd yn mwynhau prifddinas a gwlad yn llawn treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiol.

Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, y cyngor ac Awdurdod yr Harbwr luniodd y cynnig ar gyfer y digwyddiad.

Hyd yma mae wyth porthladd wedi'u henwi ar y llwybr ar gyfer 12fed Ras Hwylio Volvo yn 2014-15, Alicante (Sbaen), Recife (Brasil), Abu Dhabi (Yr Emiraethau Arabaidd Unedig), Auckland (Seland Newydd), Itajaí (Brasil), Newport, Rhode Island (Yr Unol Daleithiau), Lisbon (Portiwgal) a Gothenburg (Sweden), lle bydd y ras yn dod i ben.

Bydd trefnwyr y ras yn enwi'r porthladdoedd eraill ar gyfer Ras 2014-15 o fewn wythnosau.