Safbwynt Llywodraeth y DU ar ddatganoli

Senedd
Mae disgwyl i Gomisiwn Silk gyflwyno ei gasgliadau erbyn gwanwyn 2014

Dyw Llywodraeth y DU ddim yn credu fod yna achos dros newidiadau "radical" i ddatganoli yng Nghymru - ac mae'n awgrymu y byddai'n well cadw rheolaeth dros blismona, darlledu a phrosiectau ynni mawr yn San Steffan.

Yn ei thystiolaeth i ail ran Comisiwn Silk - sy'n edrych ar y drefn ddatganoli - mae'r llywodraeth yn dweud bod y trefniadau presennol yn "foddhaol" er y gellid gwneud rhai newidiadau.

Mae safbwynt y llywodraeth, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, yn arwyddocaol gan mai hi a sefydlodd y comisiwn.

Gweinidogion San Steffan fydd yn deddfu ar gyfer unrhyw newidiadau wedi i'r comisiwn gyhoeddi ei gasgliadau'r flwyddyn nesa'.

Yn ôl Llywodraeth y DU, gallai'r grym dros benderfynu ar gyflog ac amodau athrawon gael ei drosglwyddo o Lundain i Gymru fel "canlyniad rhesymegol" i newid y drefn yn Lloegr.

Roedd gweinidogion Cymru eisoes wedi dweud y byddai'n well ganddyn nhw petai'r maes yn parhau dan ofal San Steffan.

Trafnidiaeth

Mae'r dystiolaeth ddydd Mercher hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn llwyr gyfrifol am ryddfraint y rheilffyrdd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae angen i weinidogion yng Nghaerdydd a Llundain arwyddo unrhyw gytundebau.

Meddai adroddiad y llywodraeth: "Mae'r ffin ddatganoli bresennol o ran y cytundeb Cymru a'r Gororau'n golygu y byddai unrhyw risg ariannol yn effeithio ar Lywodraeth Cymru, ond byddai risg ariannol unrhyw gytundeb newydd yn effeithio ar Lywodraeth y DU. Dydyn ni ddim yn credu bod hyn yn ddymunol."

Mae'r papur hefyd yn awgrymu y gallai Comisiwn Silk ystyried a ddylid rhannu dyletswydd dros brif lonydd yr M4 a'r A55 rhwng Cymru a San Steffan - Llywodraeth Cymru sy'n llwyr gyfrifol ar hyn o bryd.

Meddai: "Efallai byddai'r Comisiwn yn hoffi ystyried a oes modd gwella'r trefniadau presennol ar gyfer cynnal a chadw'r llwybrau hyn, yn enwedig wrth ddelio â phrosiectau mawr i uwchraddio a gwella'r ffyrdd hyn."

Plismona

Ond mae'n ymddangos fod Llywodraeth y DU yn llugoer ynghylch nifer o feysydd y mae Gweinidogion Cymru'n dymuno eu datganoli.

Wrth drafod plismona, dywed y papur fod y drefn bresennol - sydd heb ei datganoli - yn gweithio'n dda.

Mae'n rhestru nifer o anawsterau wrth ddatganoli'r maes i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y "cysylltiad cynhenid" rhwng plismona â'r system gyfiawnder troseddol.

O ran prosiectau ynni, dim ond penderfyniadau ar geisiadau hyd at 50 megawat ar y tir, neu 100 megawat oddi ar y tir, sydd wedi'u datganoli.

Mae penderfyniadau ar brosiectau mwy angen sêl bendith gweinidogion yn San Steffan.

Yn ôl tystiolaeth Llywodraeth y DU, maent yn dymuno gweld y drefn hon yn parhau, gan ddweud fod y system bresennol yn "briodol".

'Diffyg sylwedd'

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS, wedi beirniadu "diffyg sylwedd a chyfeiriad" y ddogfen 114 tudalen.

Dywedodd fod y dystiolaeth yn enghraifft arall o'r ffaith fod Llywodraeth y DU'n gwbl ddi-glem pan fo'r farn gyhoeddus yn y cwestiwn o ystyried cefnogaeth gynyddol i fwy o bwerau a bod y dystiolaeth yn datgelu'r "diffyg consensws o fewn y pleidiau Unoliaethol rhwng cyd-weithwyr yn San Steffan a Chaerdydd".

"Dyma ddogfen siomedig iawn sy'n dangos yn glir nad oes gan Lywodraeth y DU fawr o ddiddordeb mewn sicrhau setliad datganoli cryfach a mwy effeithlon i Gymru.

"Nid yw'n cynnig unrhyw wir uchelgais na gweledigaeth dros ein gwlad."

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams: "Mae Llywodraeth y DU wedi dweud heddiw ei bod yn agored i gynigion, sydd wedi eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn, i gryfhau datganoli.

"Rydw i'n credu y bydd yr achos sydd wedi ei gyflwyno gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ac eraill yn gadarn mewn cyferbyniad â'r status quo annigonol ..."

'Darlledu'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Roedd ein tystiolaeth i'r comisiwn yn cynnwys cynigion am wella bywyd Cymru.

"Mae wedi edrych yn fanwl ar yr angen am gyfrifoldeb cyllidebol, yn cefnogi ymrwymiadau maniffesto ac yn cynnwys cynnig newydd ym maes darlledu.

"Hyd yn hyn mae gwaith y comisiwn ar ddatganoli wedi bod yn wych ac edrychwn ymlaen at fwy o argymhellion."

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Y comisiwn fydd yn ffurfio barn am y pynciau trafod y maen nhw'n eu codi.

"Byddwn yn barod i'w helpu fel bo'r angen."

Mae disgwyl i'r comisiwn gyhoeddi ei gasgliadau yng ngwanwyn 2014.